Mae'r adroddiad diweddaraf gan Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, ‘The LegalTech Ecosystem in Wales, Between Start-Ups, Law Firms and Law Schools: A Road Map for the Future’, yn cynnig dadansoddiad cynhwysfawr o'r sector, gan anelu at ddyfodol disglair, pan fydd Cymru'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes technoleg gyfreithiol.

Mae technoleg gyfreithiol yn un o elfennau allweddol Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, cyfleuster gwerth £4.95m a gafodd ei greu gan Brifysgol Abertawe a'i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Fel rhan o'r elfen hon, mae'r Labordy wedi archwilio cefnogi datblygiad arloesiadau cyfreithiol yng Nghymru, yn seiliedig ar ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol.

Er mwyn hwyluso'r gweithgarwch hwn, ar ddechrau 2023 aeth y Labordy ati i fapio arloesi cyfreithiol yng Nghymru mewn modd cynhwysfawr, gan arwain at lunio'r adroddiad newydd hwn. Canolbwyntiodd y Labordy'n benodol ar fusnesau newydd yng Nghymru, enghreifftiau o arloesi gan gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a'r hyfforddiant ynghylch arloesi cyfreithiol a gynigir gan brifysgolion Cymru, er mwyn meithrin dealltwriaeth gyflawn o strwythur a deinameg yr ecosystem technoleg gyfreithiol yng Nghymru, a nodi meysydd allweddol ar gyfer arloesi.

Mae'r adroddiad canlyniadol yn amlygu cyfres o ganfyddiadau allweddol, ynghyd â set gryno o argymhellion a allai drawsnewid y sector technoleg gyfreithiol yng Nghymru yn fenter sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang pe baent yn cael eu rhoi ar waith.

Dyma ganfyddiadau allweddol yr adroddiad, ymysg eraill:

  • Mae Cymru eisoes yn gartref i set arloesol o fusnesau newydd a chwmnïau blaenllaw sydd wrthi'n tyfu. Mae'r rhain yn rhyngweithio â haen gyfoethog o gwmnïau sy'n gweithredu mewn sectorau tebyg, yn enwedig technoleg ariannol. Mae'r ddwy haen hyn o entrepreneuriaeth yn dangos cryfder y sector technoleg gyfreithiol sy'n tyfu yng Nghymru.
  • Mae meysydd amlwg i'w gwella: o fynediad at fuddsoddiad preifat, i broblemau wrth ddenu pobl dalentog i Gymru, cydweithredu â chwmnïau cyfreithiol lleol, a diffyg hyb technoleg gyfreithiol canolog i ddod â'r rhai sydd eisoes yn arloesi mewn mannau tebyg ynghyd.

O ganlyniad i hyn, mae'r argymhellion yn cynnwys y canlynol:

  • Mae angen meithrin ymwybyddiaeth o ecosystem gyfoethog technoleg gyfreithiol yng Nghymru, gan ddod â chwmnïau cyfreithiol, prifysgolion, busnesau newydd, cwmnïau sydd wrthi'n tyfu ac amrywiaeth o randdeiliaid perthnasol eraill ynghyd.
  • Dylid cydnabod bod yr ecosystem technoleg gyfreithiol yng Nghymru'n endid ynddo'i hun, a gefnogir gan hunaniaeth, gweledigaeth, brand a strategaeth i'r farchnad sy'n amlwg.
  • Dylid llunio map cyfredol o holl gydrannau'r ecosystem a'i gadw'n berthnasol, er mwyn helpu i rannu gwybodaeth, cydweithredu ac arloesi.
  • Dylai'r map hwn gefnogi system atgyfeirio awtomataidd i gefnogi mynediad at ddarparwyr technoleg gyfreithiol i'r rhai hynny y mae angen y gwasanaethau hynny arnynt.
  • Mae angen creu canolfan technoleg gyfreithiol i fod yn hyb allweddol i'r ecosystem.
  • Dylai cynwysoldeb, cydweithrediad, parch, tegwch a chynaliadwyedd fod ymysg nodweddion yr ecosystem, ynghyd â'r nod yn y pen draw o wella mynediad pawb at gyfiawnder.

Os hoffech ddarllen mwy, mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho ar-lein.

Rhannu'r stori