Dyfarnwyd Gwobr Efydd Siarter Athena SWAN i Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe i ddathlu ei hymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ystod rownd ddiweddaraf y gwobrau a ddyfernir gan Advance HE.

Mae’r Wobr yn cydnabod ymrwymiad yr Ysgol i gynyddu cydraddoldeb rhwng y rhywiau a hyrwyddo cynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant i bawb.

Mae Siarter Athena SWAN yn fframwaith a ddefnyddir yn fyd-eang i gefnogi ac i weddnewid cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym myd addysg uwch ac ymchwil. Sefydlwyd y Siarter yn 2005 i annog ac i gydnabod ymrwymiad i gynyddu gyrfaoedd menywod mewn swyddi ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg, a meddygaeth (STEMM), a bellach caiff ei defnyddio i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn cyd-destun ehangach.

Yn 2017, derbyniodd Prifysgol Abertawe Wobr Arian Sefydliadol Athena SWAN i gydnabod ei chyflawniadau, ei gweithgarwch a’i heffaith o ran hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau wrth i bob Ysgol a Choleg ymrwymo i weithio tuag at gyflwyno cais am wobr ar lefel Efydd neu Arian.

Wrth siarad am y Wobr, meddai’r Athro Simon Hoffman, Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn Ysgol y Gyfraith:

“Rydyn ni wrth ein boddau ac yn falch o dderbyn y Wobr hon sy’n cadarnhau ymrwymiad yr Ysgol i gydraddoldeb rhwng y rhywiau a hyrwyddo cynnydd gyrfa ar gyfer pob aelod staff.”

Wrth siarad am y cyflawniad, meddai’r Athro Elwen Evans CF, Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol:

“Mae’n galonogol iawn gweld Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i amrywiaeth, cynwysoldeb, a chyfleoedd cyfartal i bawb.

“Mae derbyn y Wobr hon yn dangos ymrwymiad parhaus yr Ysgol i fod yn amgylchedd cymhwysol sy’n cynnig y gefnogaeth orau a’r cyfleoedd gorau i’w staff a’i myfyrwyr.”

Rhannu'r stori