Mewn gweminar a gynhaliwyd gan y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL), lansiwyd llyfr newydd, Artificial Intelligence & Autonomous Shipping: Developing the International Legal Framework.

Ysgrifennwyd y llyfr ar y cyd gan aelodau o'r IISTL (yr Athro Baughen, yr Athro Soyer a'r Athro Tettenborn, yr Athro Cysylltiol Leloudas a Dr Van Logchem), yr Athro Cysylltiol Bagshaw (Prifysgol Rhydychen) a Peter MacDonald-Eggers CF (7 KBW). Cyhoeddir y llyfr gan Hart Publishing ac mae'n werthusiad beirniadol o'r fframwaith cyfreithiol sy'n angenrheidiol wrth ddefnyddio llongau awtonomaidd mewn dyfroedd rhyngwladol.

Cadeirydd y gweminar oedd yr Ustus Simon Picken a ofynnodd gwestiynau diddorol i'r cyd-awduron am eu cyfraniad gan eu gwahodd i rannu eu prif ganfyddiadau. Atebodd y cyd-awduron gwestiynau hefyd gan y cyfranogwyr am y prif themâu a drafodwyd, ynghyd â chwestiynau mwy cyffredinol am ddatblygu cyfraith i ymdopi â'r technolegau newydd.

Bu Golygydd Comisiynu Hart Publishing, Dr Roberta Bassi, yn bresennol yn y digwyddiad hefyd a mynegodd ei barn y bydd y llyfr hwn yn gyfraniad pwysig at y drafodaeth barhaus am longau awtonomaidd.

Cynhelir gweminar nesaf yr IISTL ar 15 Ebrill ar y thema Contractau Clyfar - Dyfodol Llongau ac Ymarfer Masnachol.

Rhannu'r stori