Raghav yn ennill Gwobr Hannaford Turner

Nid cwmnïau cyfreithiol mawr yn y Ddinas yn unig sy'n gweld manteision noddi gwobrau yn yr LLM a ddarperir gan Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol Prifysgol Abertawe.

Yn 2019, cyflwynodd y cwmni bach sy'n dod i'r amlwg, Hannaford Turner LLP, cwmni newydd a llawer llai sy'n arbenigo mewn llongau, asedau a nwyddau, wobr ar gyfer y myfyriwr sy'n perfformio orau ym mhapur Abertawe ar Gyllid Llongau ac Asedau Symudol Eraill. Mae parch mawr tuag at y wobr, ac ar wahân i'w gwerth ariannol, mae'n cynnwys interniaeth gyda'r cwmni hefyd.

Raghav Sharma oedd yr enillydd eleni. Mae Raghav yn hanu o India'n wreiddiol, ac mae ganddo radd MSc o Brifysgol Erasmus yn Rotterdam mewn Economeg a Logisteg Forwrol eisoes, ac mae'n cwblhau ei radd LLM mewn Cyfraith Forwrol Ryngwladol yn Abertawe ar hyn o bryd.

Cyflwynwyd y wobr yn Llundain gan Matt Hannaford, un o sylfaenwyr y cwmni, a'r cydymaith Rasha Jassim.

Meddai Cyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Soyer, ar ddiwedd y seremoni:

"Rydym fel Sefydliad yn hynod ddiolchgar i Hannaford Turner. Mae hwn yn gwmni cyfreithiol gwych sy'n arbenigo ym maes cyllid llongau ac asedau, ac mae hefyd yn ddynamig ac yn flaengar o ran ei benderfyniad i fuddsoddi yn y bobl a fydd yn arweinwyr cyfraith ac ymarfer morwrol yn y dyfodol. Rydym yn estyn ein llongyfarchiadau i Raghav ac yn dymuno'r gorau iddo yn ei interniaeth a'r tu hwnt".

Rhannu'r stori