Mae pedwar myfyriwr cyfredol y gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton wedi cyrraedd y rownd derfynol, sef Henrietta Gilchrist, Felicity Hawkes, Zachariah Rooth a Thomas Plan.

Disgwylir i’r pedwar myfyriwr gymryd rhan yn rownd derfynol Ffug Lys Barn y Myfyrwyr Hŷn a fydd yn cael ei chynnal o bell gan y Goruchaf Lys ar 23ain Mawrth o 5pm ymlaen. Bydd y dadleuon yn y ffug lys barn yn cael eu barnu gan yr Arglwydd Lloyd Jones, un o Ustusiaid Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig.

Mae Henrietta, Felicity, Zachariah a Thomas wedi gweithio’n galed yn gyson ar ôl iddyn nhw frwydro drwy bum rownd o ffug lysoedd barn ar bynciau cyfraith tir, cyfraith camwedd a chyfraith trosedd er mwyn cyrraedd y rownd derfynol.

Mae ffug lysoedd barn yn elfen allweddol yn y gyfres o brofiadau dysgu drwy brofiad sy'n cael eu cynnig yn Ysgol y Gyfraith, ac mae’n annog myfyrwyr i ddadlau dros achosion ffug o dan amodau ystafell ll?ys ddilys er mwyn datblygu’u hyder yn ogystal â'u sgiliau ymchwil, cyfathrebu ac eirioli.

Fel rhan o'r broses, mae’n rhaid i fyfyrwyr ddadansoddi problem, ymchwilio i'r gyfraith berthnasol, paratoi cyflwyniadau ysgrifenedig a chyflwyno dadl lafar, a bydd y tîm sydd â’r cyflwyniad mwyaf cyflawn yn symud ymlaen yn y gystadleuaeth.

Mae'r pedwar myfyriwr dan sylw hefyd wedi cael y cyfle i elwa ar yr adborth gan gydweithwyr a  roddodd o’u hamser yn raslon, fel y byddan nhw’n ei wneud bob amser, i feirniadu a chynnig adborth cynhwysfawr, sy'n hanfodol wrth ddatblygu sgiliau allweddol y byddan nhw’n dibynnu arnyn nhw yn nes ymlaen yn eu gyrfaoedd cyfreithiol.

Wrth siarad am gyflawniadau’r myfyrwyr, dyma a ddywedodd Matthew Parry, Darlithydd yn y Gyfraith a Chydlynydd Ffug Lysoedd Barn Ysgol y Gyfraith:

“Gweithiodd pob un o’r pedwar myfyriwr yn galed i ymaddasu i’r ffug lysoedd barn o bell gan ddangos ystod eang o wybodaeth a sgiliau i gyrraedd y cam hwn.”

Dyma a ddywedodd Zachariah Rooth, un o fyfyrwyr y gyfraith: 

"Dyw cyrraedd y rownd derfynol ddim wedi bod yn hawdd, ond rwy wedi mwynhau pob cam o'r gystadleuaeth ac rwy wedi dysgu cymaint, a bydd hyn oll yn fy helpu yn fy ymdrechion i fod yn fargyfreithiwr."

Wrth siarad am y cyfle i gynrychioli'r Ysgol yn y rownd derfynol, dyma a ddywedodd Henrietta Gilchrist, un o fyfyrwyr y gyfraith:

“Mae ffug lysoedd barn wedi bod yn gyfle delfrydol imi ddatblygu fy sgiliau cyfreithiol ar gyfer y dyfodol ac i gadarnhau fy nealltwriaeth o bynciau. Mae cyrraedd y rownd derfynol a chael y cyfle anhygoel i ddadlau o flaen yr Arglwydd Lloyd Jones, un o farnwyr y Goruchaf Lys, y tu hwnt i fy nisgwyliadau ar gyfer y gystadleuaeth eleni. "

Os hoffech chi wybod rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael yn Ysgol y Gyfraith i gymryd rhan mewn ffug lysoedd barn, ewch i’n gwefan sy’n trafod ffug lysoedd barn.

Rhannu'r stori