Trefnodd y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) ei chweched gweminar ar gyfer 2021 ar 9 Mehefin gyda 4 siaradwr arbenigol yn cymryd rhan.

  • Ystyriodd Dr Regina Assariotis (Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Fasnach a Datblygu) effaith y pandemig byd-eang ar gontractau gwerthu rhyngwladol
  • Rhoddodd Philippa Hopkins CF (Siambrau Essex Court) ddadansoddiad diddorol tebyg ar gontractau siarteri llongau
  • Yn nhrafodaeth yr Athro Baughen (IISTL), gwnaeth ystyried sut yr effeithiwyd ar gontractau bil llwytho oherwydd y pandemig.
  • Yn olaf ond nid lleiaf, trafododd Dr Amaxilati (IISTL) sefyllfa gyfreithiol ac ymarferol morwyr yn ystod y pandemig.

Roedd yr IISTL yn hynod falch bod y digwyddiad wedi denu cyfranogwyr o'r DU ond hefyd o rannau gwahanol o Ewrop, Asia ac America. Ysgogodd eu cwestiynau i'r panel drafodaeth ddiddorol iawn.

Cynhelir gweminar nesaf yr IISTL ar 30 Mehefin, a bydd yn canolbwyntio ar faterion diweddar mewn perthynas â chyfraith y môr.

Rhannu'r stori