Yr Athrawon Baughen, Leloudas a Tettenborn gyda chystadleuwyr y rownd derfynol yn ystod y seremoni wobrwyo.

Nid addysgu sgiliau cyfreithiol o’r radd flaenaf yn y DU yw unig weithgarwch Ysgol y Gyfraith Abertawe. Mae'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL) yn gweithio ledled y byd er lles myfyrwyr sy'n astudio cyfraith fasnachol a morwrol.

Eleni, roedd y Sefydliad yn bartner i Brifysgol y Gyfraith Genedlaethol yn Cuttack, Talaith Odisha, yn India. Cynhaliodd ar y cyd (yn rhithiol, oherwydd yr pandemig) 8fed gystadleuaeth Ffug Lys Barn Morwrol Rhyngwladol rhwng 8 ac 11 Ebrill, digwyddiad a oedd yn agored i fyfyrwyr y gyfraith yn India a ledled y byd. Cynhaliwyd y rowndiau agoriadol ar 8 i 9 Ebrill, a'r rowndiau gogynderfynol a chynderfynol ar 10 Ebrill, a'r rownd derfynol ar 11 Ebrill. Yr enillydd oedd Coleg Cyfraith y Llywodraeth ym Mumbai, ac yn ail agos tîm rhagorol o fyfyrwyr y gyfraith o Goleg y Gyfraith ILS yn Pune.

Roedd cyfraniad yr IISTL i'r digwyddiad yn aruthrol. Bu eu harbenigwyr (Yr Athrawon Baughen a Tettenborn a'r Athro Cysylltiol Leloudas) yn ysgrifennu'r cwestiwn, yn beirniadu'r dadleuon fframwaith a gyflwynwyd ac yn beirniadu yn y rownd derfynol. Yn y digwyddiad olaf, ymunwyd â nhw gan yr Ustus Kurian Joseph (wedi ymddeol yn ddiweddar o Oruchaf Lys India), Punit Oza o Siambr Cyflafareddu Morwrol Singapôr, ac Aritave Majumdar o un o gwmnïau cyfraith fasnachol mwyaf blaenllaw India, Bose & Mitra.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Soyer, Cyfarwyddwr yr IISTL:

"Yn Abertawe, gwelwn fusnes masnachol a morwrol fel menter fyd-eang. Fel sefydliad ymchwil ac addysgu o'r radd flaenaf yn y maes, rhaid i ni fod yn rhan o hyn a helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr.

Rhaid i mi achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i'n partner, Prifysgol y Gyfraith Genedlaethol yn Odisha am ein helpu i wneud hyn drwy ein gwahodd i drefnu'r gystadleuaeth ffug lys barn. Rhaid i mi ddiolch hefyd i'r holl fyfyrwyr a gymerodd ran ac i dîm yr IISTL, sef yr Athrawon Baughen, Leloudas a Tettenborn, am eu gwaith diflino. Hoffwn ychwanegu ein bod yn cynnal cystadleuaeth debyg yn y DU ar y cyd â chwmni adnabyddus yn Llundain sef HFW;  rydym wrthi ar hyn o bryd yn cynllunio ar gyfer rownd derfynol y digwyddiad hwnnw ym mis Mehefin 2021".

Rhannu'r stori