Mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiadau agos â sawl mudiad byd-eang blaenllaw. Un o'r rhain yw HFW; cwmni cyfreithiol byd-eang sy'n cyflogi dros 600 o gyfreithwyr yng nghyfandiroedd America, Ewrop, y Dwyrain Canol, Asia ac Awstralia. 

Mae HFW yn arbenigo yn y sectorau awyrofod, nwyddau, adeiladu, ynni, yswiriant a morgludiant.  Gan gydnabod rôl amlwg Abertawe wrth addysgu'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr masnachol a morol, sefydlodd HFW sawl gwobr ar gyfer myfyrwyr LLM Abertawe bum mlynedd yn ôl. 

Ym mlwyddyn academaidd 2020-21, enillwyr Gwobrau HFW oedd:

  • Filippos Mentis (Gwobr HFW yng Nghyfraith y Morlys);
  • Eline Vergotte (Gwobr HFW mewn Cyfraith Olew a Nwy), ac
  • Ozavize Dele-Alufe (Gwobr HFW mewn Cludo Nwyddau).

Graddiodd Filippos o Brifysgol Genedlaethol a Kapodistrian Athen. Graddiodd Eline o Brifysgol Ghent ac ar hyn o bryd mae'n gweithio i Marsh McLennan yn Antwerp (swydd a gafodd pan oedd hi'n astudio ar gyfer ei gradd LLM yn Abertawe).   Graddiodd Ozavize o Brifysgol Benson Idahosa yn Nigeria a bu'n gweithio am flwyddyn mewn cwmni cyfreithiol lleol cyn dod i Abertawe.  Cyflwynwyd y Gwobrau gan Richard Neylon sy'n Bartner yn HFW, a raddiodd o Abertawe hefyd, mewn digwyddiad yn Llundain. Gwnaeth longyfarch myfyrwyr ar eu llwyddiant gan fynegi ei bleser am y ffaith bod gan raddau LLM Abertawe enw o fri ar lefel fyd-eang.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, gwnaeth yr Athro Cysylltiol Leloudas, a aeth gyda'r myfyrwyr a Dr Kurtz-Shefford, longyfarch yr holl fyfyrwyr arobryn, gan fynegi ein gwerthfawrogiad i HFW am ei gefnogaeth barhaus ar gyfer graddau LLM Abertawe.

Hefyd pwysleisiodd Dr Leloudas, er gwaethaf y pandemig, fod carfan myfyrwyr LLM Abertawe wedi cynyddu a bod hynny o ganlyniad i'r ffaith bod yr Ysgol wedi gwneud ei gorau glas i ofalu am fyfyrwyr yn ystod y pandemig gan gynnig rhan sylweddol o'r addysgu yn y dosbarth.

Rhannu'r stori