Mae Dr Gemma Morgan a Mr Joe Janes, ill dau'n ddarlithwyr yn Adran Droseddeg Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, wedi derbyn £15,000 i werthuso dwy raglen ymyrraeth.

Mae'r rhaglenni ymyrraeth sy'n cael eu gwerthuso'n cael eu llunio a'u cyflwyno gan Media Academy Cymru (MAC). Mae MAC yn gweithio gyda rhai o’r plant, pobl ifanc a theuluoedd anoddaf ymgysylltu â nhw yng Nghymru.  Maent yn gweithio gyda nifer sylweddol o bobl ifanc nad ydynt yn yr ysgol nac mewn hyfforddiant ac a allai fod ar fin mynd i'r system cyfiawnder troseddol. Mae MAC yn cynnal nifer o brosiectau amrywiol ar draws de-ddwyrain Cymru. Un peth sy'n gyffredin ar gyfer pob prosiect yw bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn ganolbwynt y gwaith.

Y rhaglenni ymyrraeth Bywydau Paralel ac Ecsbloetio Plant fydd ffocws y gwerthusiadau. Nod Bywydau Paralel yw atal a lleihau trais/cam-drin gan pobl ifanc yn erbyn rhieni yn y cartref. Nod y rhaglen Ecsbloetio Plant yw cefnogi pobl ifanc a'u hatal rhag cael eu hecsbloetio gan grwpiau troseddu cyfundrefnol megis gangiau. Bydd y gwerthusiadau'n canolbwyntio ar ymchwilio i effaith y rhaglenni ymyrraeth ar bobl ifanc a'u teuluoedd sydd wedi ymgysylltu â'r rhaglenni.

Yn siarad ar ôl ennill y cyllid, dywedodd Dr Gemma Morgan:

"Mae MAC yn sefydliad sy'n ymroddedig i ymagweddau sy'n canolbwyntio ar blant sy'n cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu dyheadau. Rydym yn hynod falch o gael gweithio gyda MAC i werthuso eu rhaglenni ymyrraeth. Bydd y gwerthusiadau'n hwyluso nodi a rhannu arfer da a all helpu i gefnogi pobl ifanc, yn ogystal â meysydd i'w gwella, er mwyn cyflwyno gwasanaethau’n fwy effeithiol"

Rhannu'r stori