Mae Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch wedi cyhoeddi’r ail argraffiad o ‘Contracting to Cheat in Higher Education: How to Address Essay Mills and Contract Cheating’.

Mae niferoedd cynyddol o’r 200 miliwn o fyfyrwyr a mwy mewn addysg uwch yn fyd-eang yn talu eraill (cwmnïau sy’n cael eu hadnabod fel Melinau Traethawd) i gwblhau aseiniadau ar eu rhan (twyllo dan gontract yw’r term am hyn). Mae hyn yn bygwth safonau ac ansawdd addysg uwch fyd-eang.

Ers yr argraffiad cyntaf yn 2017,  y cyfrannodd yr Athro Michael Draper ato hefyd, mae llawer wedi newid. Mae diddordeb mewn twyllo mewn addysg uwch, a’r niferoedd sy’n cyfranogi yn y gweithgarwch, wedi cynyddu a bellach ceir tystiolaeth ei fod yn ffenomenon helaeth sy’n peri pryder sylweddol i’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a’r cyhoedd sy’n dibynnu ar wasanaethau graddedigion proffesiynol o amrywiaeth o ddisgyblaethau.

I fynd i’r afael â hyn, mae’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn darparu canllawiau i sefydliadau addysg uwch. Mae Michael yn aelod o Grŵp Cynghori ar Uniondeb Academaidd yr Asiantaeth ac mae wedi gweithio gyda chydweithwyr ledled Ewrop drwy blatfform ETINED Cyngor Ewrop am nifer o flynyddoedd er mwyn cynnal moeseg ac uniondeb academaidd mewn addysg uwch.

Ym mis Medi 2018, ysgrifennodd 45 o Is-gangellorion ac arweinwyr y Sector a gynrychiolodd sefydliadau ledled y DU at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ar y pryd, gan gyfeirio at ymchwil gan yr Athro Michael Draper a’r Athro Phil Newton a gofyn i’r Llywodraeth weithredu, gan gynnwys cyflwyno deddfwriaeth.

Mae canllawiau diwygiedig yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn ymateb pellach i’r cynnydd mewn twyllo dan gontract ac mae’n cydnabod cyfraniad yr Athro Michael Draper, ynghyd â Lawrence Thomas a Callum Morton, dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe -  nhw oedd yr unig fyfyrwyr i gael eu cydnabod gan yr Asiantaeth am eu cyfraniad.

Meddai’r Athro Michael Draper:

“Mae’r ddogfen ddiwygiedig yn adlewyrchu’r newidiadau mewn darpariaeth a chymorth y bu’n angenrheidiol eu cyflwyno oherwydd COVID-19. Mae sefydliadau addysg uwch ledled y DU, gan gynnwys Abertawe, yn cynllunio eu darpariaeth ar gyfer hydref 2020 – gyda’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn mabwysiadu ymagwedd gyfunol o ddarpariaeth rithwir a chyswllt wyneb yn wyneb ar y safle. Bydd yr angen i asesu gan gadw pellter cymdeithasol yn fwy cyffredin nag yn y blynyddoedd blaenorol, felly mae’r canllawiau diwygiedig hyn yn amserol ac yn angenrheidiol iawn.”

Wrth siarad am y cyfle, meddai Lawrence Thomas:

“Roedd yn fraint cael fy ngwahodd i gynorthwyo’r Athro Draper a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd i lunio’r canllawiau newydd. Mae’n amlwg bod melinau traethawd yn targedu myfyrwyr yn digywilydd. Gan ystyried y cynnydd yn ddiweddar mewn dibyniaeth ar asesiadau o bell, mae atal twyllo dan gontract yn berthnasol iawn. Es i a Callum ati i adolygu’r ddogfennaeth â’r nod o ychwanegu awgrymiadau o safbwynt myfyriwr. Roedd yn amlwg i ni fod y canllawiau’n hynod gynhwysfawr ac yn addysgol, hyd yn oed ar ffurf drafft, ac rwy’n hyderus y byddant yn effeithiol wrth atal twyllo dan gontract, gan ddiogelu uniondeb asesiadau.”

Wrth siarad am y gwaith a wnaed, meddai Callum Morton:

“Roedd gweithio ar ganllawiau drafft yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn ddiddorol iawn. Yn fy marn i, mae’r ddogfen yn hanfodol a bydd yn bwysicach byth yn sgil COVID-19. Fel rhywun sydd bob amser yn wyliadwrus rhag llên-ladrad, gorau bo’r cyfarwyddyd sy’n cael ei roi i sefydliadau, mwyaf defnyddiol fydd yr wybodaeth maen nhw’n gallu ei rhoi i fyfyrwyr. Gofynnwyd i ni ddarllen y canllawiau a chynnig newidiadau posib i’r ddogfen o safbwynt myfyriwr.

Mae’n gyffrous iawn cael ein cydnabod fel yr unig fyfyrwyr a gyfrannodd. Roedd yn brofiad gwych sydd wedi datblygu fy sgiliau dadansoddi yn bendant”.

Mae’r Athro Draper wedi gweithio gyda’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn ddiweddar hefyd i ddarparu canllawiau ar safonau academaidd a chefnogi cyflawniad myfyrwyr yn sgil pandemig Covid-19 ac mae’n parhau i weithio gyda Chyngor Ewrop ar ymatebion polisi i gynnal ymddygiad academaidd moesegol.

Rhannu'r stori