Yr Athro Simon Baughen

MA (Rhydychen)

Simon baughen

Penodwyd yr Athro Simon Baughen yn Athro Cyfraith Llongau yng Ngholeg y Gyfraith Prifysgol Abertawe ar 1 Medi 2013. Cyn hynny, bu'n Ddarllenydd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bryste. Mae Simon hefyd wedi gweithio fel cyfreithiwr llongau proffesiynol, i ddechrau yn y London P&I Club ac wedyn gyda'r cwmni Horrocks & Co. Prif faes ymchwil Simon yw cyfraith llongau ac mae saith argraffiad o'i lyfr, Shipping Law, wedi'u cyhoeddi, yr un diweddaraf yn 2018.  Mae'r llyfr hwn eisoes yn adnabyddus ymhlith academyddion a myfyrwyr fel y gwaith mwyaf dysgedig a hawdd ei ddeall ar y pwnc.  Ef yw awdur y gwaith sefydledig iawn i ymarferwyr, Summerskill on Laytime (2013) (cyhoeddwyd argraffiad newydd yn 2017). Ei brif faes ymchwil arall yw rheoleiddio gweithgareddau corfforaethau aml-wladol yn y byd datblygol. Dyma thema ei lyfr Holding Corporations to Account. Closing the Governance Gap, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015. Mae wedi ymdrin â'r thema hon o'r blaen yn ei lyfr International Trade and the Protection of the Environment (2007) sy'n sôn am y berthynas rhwng cytundebau masnach a buddsoddi a diogelu'r amgylchedd. Yn ogystal, mae wedi ysgrifennu ac addysgu'n helaeth am gyfraith ymddiriedolaethau, sef un o'r pynciau a addysgir ganddo ar y rhaglenni LLB. Mae Simon yn aelod o'r IISTL ac mae'n addysgu Cludo Nwyddau ar y Môr, ar y Tir a Siartrau Llogi Llongau: Cyfraith ac Ymarfer ar y rhaglenni LLM yn Abertawe.

I weld hanes ymchwil yr Athro Baughen, cliciwch yma