15 o grethyll dri phigyn yn nofio mewn tanc

Mae personoliaeth wedi cael ei disgrifio ar gyfer mathau gwahanol o rywogaethau anifeiliaid, o forgrug i epaod. Mae rhai unigolion yn swil ac yn sefydlog, ond mae eraill yn fentrus ac yn fywiog. Nawr, mae astudiaeth newydd a gyhoeddir yn Ecology and Evolution wedi datgelu bod dull nofio pysgodyn yn rhoi llawer o wybodaeth am ei bersonoliaeth.

Mae'r ymchwil newydd hon yn awgrymu y gall arbenigwyr fesur personoliaeth anifail, a hynny'n ddibynadwy, drwy edrych ar y ffordd y mae'n symud, rhyw fath o nodwedd o fân bersonoliaeth, ac y gellid defnyddio'r dull er mwyn helpu gwyddonwyr i ddeall gwahaniaethau rhwng personoliaethau anifeiliaid gwyllt.

Gwnaeth tîm o fiolegwyr a mathemategwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Essex ffilmio symudiadau 15 o grethyll dri phigyn yn nofio mewn tanc a oedd yn cynnwys dau, tri neu bum planhigyn plastig mewn safleoedd sefydlog.

Gan ddefnyddio data olrhain eglur iawn o recordiadau fideo, mesurodd y tîm faint a pha mor aml y gwnaeth y pysgod droi, a pha mor aml y gwnaethant stopio a dechrau symud.

Datgelodd y data fod symudiadau pob pysgodyn yn wahanol iawn, a bod y gwahaniaethau hyn yn cael eu hailadrodd – fel y gall yr ymchwilwyr adnabod pysgodyn o'i ddata symud.

Meddai Dr Ines Fürtbauer, un o gyd-awduron yr astudiaeth o Brifysgol Abertawe: “Mae'r mân bersonoliaethau hyn mewn pysgod fel llofnodion – yn wahanol ac yn unigryw i'r unigolyn. Gwnaethom weld bod tueddiadau'r pysgod yr un peth pan wnaethom rai newidiadau syml i'r tanciau, megis ychwanegu rhagor o blanhigion. Fodd bynnag, mae'n bosib bod y tueddiadau hyn yn newid yn raddol yn ystod oes anifail, neu'n sydyn os bydd anifail yn dod ar draws rhywbeth newydd neu annisgwyl yn ei amgylchedd. Bydd olrhain symudiadau anifeiliaid dros gyfnodau hwy ac yn eu cynefinoedd yn rhoi'r math hwn o ddealltwriaeth i ni ac yn ein helpu i ddeall personoliaeth anifail yn well yn ogystal â pha mor hyblyg y mae ei ymddygiad.”

Yn ôl awduron yr astudiaeth, mae angen gwneud rhagor o waith gyda rhywogaethau eraill ac mewn cyd-destunau eraill er mwyn gweld pa mor gyffredin y mae'r ffenomen, a gweld a geir yr un patrymau yn achos anifeiliaid tir neu rywogaethau hedegog.

Meddai Dr Andrew King, y prif awdur o Brifysgol Abertawe: “Mae ein gwaith yn awgrymu y gellir gweld paramedrau symud syml fel nodweddion o fân bersonoliaethau sy'n arwain at gryn wahaniaethau unigol rheolaidd o ran ymddygiad. Mae hyn yn arwyddocaol gan ei fod yn awgrymu y gallai fod yn bosib i ni fesur gwahaniaethau rhwng personoliaethau anifeiliaid gwyllt, os bydd gennym wybodaeth ar raddfa fân am y ffordd y maent yn symud. Mae'r mathau hyn o ddata'n fwy cyffredin bellach wrth i dechnolegau olrhain anifeiliaid ddatblygu.” 

Rhannu'r stori