Yr Athro David Ford

Mae rhestr DataIQ 100 ar gyfer 2021 yn cydnabod bod yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr y Grŵp Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ymhlith y bobl fwyaf dylanwadol ym maes data a dadansoddeg.

Fel un o sylfaenwyr y banc data blaenllaw SAIL ym Mhrifysgol Abertawe, mae David wedi cael ei gydnabod am ei rôl dros y 25 mlynedd diwethaf wrth ddatblygu ffyrdd newydd o wneud yn fawr o ddata o faes gofal iechyd a sefydliadau academaidd a llywodraethol a gesglir yn rheolaidd.

Darllenwch sesiwn holi ac ateb David yma.

DataIQ 100 yw'r rhestr gyntaf o bobl fwyaf dylanwadol y diwydiant data a'r unig un a gaiff ei churadu'n gyflawn. Eleni, mae'r rhestr yn cydnabod y newidiadau ysgubol sydd wedi deillio o bandemig Covid-19, yn enwedig y ffaith bod arweinwyr data, arweinwyr dadansoddeg ac arweinwyr gwyddor data wedi cael lle canolog yn y broses o wneud penderfyniadau.

Meddai David Reed, cyfarwyddwr gwybodaeth a strategaeth DataIQ:

“Cawsom fwy na 1,000 o enwebiadau i'w hadolygu eleni, sef y cyfanswm mwyaf erioed. Yr hyn a ddaeth i'r amlwg oedd bod data bellach yn adnodd blaenllaw i sefydliadau o bob math, yn enwedig wrth ymdrin ag achosion o darfu ar y farchnad. Mae rhestr 2021 yn adlewyrchu graddau a chyflymder y newid hwn a'r unigolion sy'n ymateb iddo.”

Mae'r unigolion sy'n cael eu cynnwys ar restr DataIQ 100 yn cyfeirio ati'n helaeth fel cydnabyddiaeth o gyflawniadau eu gyrfaoedd ar lefel unigol a sefydliadol.

Meddai Adrian Gregory, prif weithredwr DataIQ:

“Mae'r rhai sydd wedi cael eu cydnabod wedi cyflawni campau anhygoel dan amgylchiadau eithriadol, gan feddu ar y dylanwad, y proffil a'r wybodaeth i hyrwyddo'r diwydiant allweddol hwn a helpu i greu busnesau gwirioneddol wych.”

Mae DataIQ yn gyfrwng ar gyfer darparu gwybodaeth a chymorth i arweinwyr data a'u timau er mwyn hyrwyddo'r diwydiant data a dadansoddeg. Mae aelodaeth DataIQ yn cynnwys llawer o sefydliadau byd-eang FTSE 100 mawr a rhai canolig eu maint, gan gynnwys Aviva, Barclays, BBC, BT, HSBC, Sainsbury’s, TUI, VW, Walgreen Boots Alliance, Warner Media a Zurich Insurance.

Mae rhestr lawn DataIQ 100 ar gyfer 2021 ar gael yma.

Gwyddor Data Poblogaeth - Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

Rhannu'r stori