Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Ymchwilydd i gyflwyno un o'r prif anerchiadau mewn uwchgynhadledd rithwir unigryw

Ymchwilydd i gyflwyno un o'r prif anerchiadau mewn uwchgynhadledd rithwir unigryw 

Bydd yr ymchwilydd Dr Lewis Francis o Brifysgol Abertawe yn rhannu ei waith â chynulleidfa fyd-eang mewn cynhadledd ar-lein ryngwladol yr wythnos nesaf. 

Bydd Dr Francis, sy'n athro cysylltiol gwyddorau biofeddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn un o'r prif siaradwyr yn Uwchgynhadledd Rithwir SelectScience ar Gynhyrchion Biofferyllol.

Bydd y digwyddiad arloesol hwn, a fydd yn ymdrin â phynciau llosg o bob rhan o faes cynhyrchion biofferyllol, yn dechrau ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr ac yn cynnig fforwm rhyngweithiol i alluogi gwyddonwyr a gwneuthurwyr o bedwar ban byd i gysylltu a rhannu gwybodaeth â'i gilydd ar yr adeg allweddol hon.

Bydd y digwyddiad am ddim yn cynnwys sawl siaradwr, a'r prif bynciau fydd therapi genynnau, nanofeddyginiaethau, darganfod cyffuriau, a phrofion rheolaidd.

Bydd Dr Francis yn cyflwyno sgwrs o'r enw Nanofeddyginiaethau a dulliau gwell o drin canserau gynaecolegol, gan amlinellu'r gwaith ymchwil cyffrous y mae'r Grŵp Ymchwil Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol yn ei wneud.

Meddai Dr Francis: “Mae gan y grŵp gylch gwaith ymchwil eang ar hyn o bryd, gyda phrosiectau clinigol i ddatblygu dulliau newydd a gwell o drin canserau atgenhedlu benywol.

“Mae achub ar y cyfle i rannu ein gwaith â chynulleidfa fyd-eang yn rhan bwysig ohono, gan sicrhau adborth a mewnbwn gan bobl ledled y byd a lledaenu ein dulliau gweithredu o'r radd flaenaf i'w datblygu ar y cyd â chymuned ehangach maes gwyddoniaeth a chynhyrchion biofferyllol.”

Fel cyfarwyddwr y rhaglen MSc Nanofeddygaeth, mae Dr Francis yn croesawu myfyrwyr MSci Geneteg a Biocemeg ac yn darlithio ar amrywiaeth eang o gyrsiau israddedig.

Bydd yr uwchgynhadledd ar agor bob dydd o 8 Rhagfyr i 10 Rhagfyr. Cewch weld rhestr y siaradwyr a chadw lle am ddim heddiw yma.

Rhannu'r stori