Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Gemau'r Gymanwlad - nofio

Bydd gwaith prosiect ymchwil Cymru gyfan sy'n helpu i wella perfformiad cystadleuwyr o Gymru ym myd y campau yn parhau diolch i grant gwerth £440,000 gan Chwaraeon Cymru.

Mae Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru eisoes wedi bod ar waith dan arweiniad Prifysgol Abertawe ers pum mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae ei waith ymchwil, ar feysydd megis technegau cicio yn y pwll a rheoli straen, wedi helpu i ysgogi llwyddiant cynrychiolwyr Cymru ym mhencampwriaethau Gemau'r Gymanwlad.

Bydd y cyllid newydd yn galluogi'r sefydliad i barhau â'i waith ymchwil am bedair blynedd arall, gan gefnogi cystadleuwyr o Gymru mewn pencampwriaethau mawr.

Mae'r sefydliad yn bartneriaeth deiran rhwng Chwaraeon Cymru, y gwyddonwyr chwaraeon academaidd mwyaf blaenllaw yng Nghymru, a phartneriaid diwydiannol perthnasol. Mae'n cynnal prosiectau gwyddorau perfformio cymhwysol amlddisgyblaethol sydd ar flaen y gad yn fyd-eang mewn 16 o feysydd gwahanol, o faetheg, seicoleg a dadansoddi perfformiad i chwaraeon ieuenctid a chwaraeon pobl anabl.

Mae'r prosiect i fenywod ym myd y campau dan arweiniad Dr Natalie Brown yn fenter ymchwil gan y sefydliad sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae'n archwilio effaith y gylchred fislifol ar fenywod ym myd y campau, o chwaraeon ar y lefel uchaf i gyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol.

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar feysydd megis addysgu hyfforddwyr a chystadleuwyr, er mwyn cynyddu eu gwybodaeth am y gylched fislifol a'u hymwybyddiaeth ohoni, a dealltwriaeth a phrofiadau menywod wrth ymarfer a chystadlu ar y lefel uchaf.

Mae'r sefydliad yn fenter Cymru gyfan sy'n cynnwys aelodau o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Meddai'r Athro Liam Kilduff, pennaeth grŵp ymchwil chwaraeon cymhwysol, technoleg, ymarfer corff a meddygaeth (A-STEM) yn Adran Gwyddor Chwaraeon Prifysgol Abertawe, a chadeirydd byrddau grŵp llywio ymchwil a rheoli strategol Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru:

“Mae'r ffaith bod Chwaraeon Cymru wedi ymestyn contract Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru am bedair blynedd arall yn bleidlais fawr o hyder yn y prosiect. Cafodd y sefydliad ei greu er mwyn manteisio i'r eithaf ar gryfder ymchwil i wyddor chwaraeon ym mhrifysgolion Cymru. Mae ei lwyddiant yn deyrnged i waith caled pob aelod o'r grŵp llywio ymchwil.”

Mae gwyddonwyr chwaraeon eraill o Brifysgol Abertawe sy'n cymryd rhan yn cynnwys Dr Camilla Knight a Dr Neil Bezodis (y cyd-arweinwyr) ynghyd â Dr Tom Love, Dr Kelly Mackintosh, Dr Mark Waldron a Dr Denise Hill.

Meddai Brian Hughes, Prif Ffisiolegydd Chwaraeon Cymru:

“Mae Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru wedi cael effaith gadarnhaol iawn, gan ddod ag academyddion ac ymarferwyr gwyddor chwaraeon mwyaf blaenllaw Cymru, arbenigwyr meddygol a phartneriaid diwydiannol perthnasol ynghyd, ac ategu ymagwedd gyfannol Chwaraeon Cymru at ddatblygu cystadleuwyr. Mae'r ymagwedd gydweithredol hon wedi cynyddu'r gallu i gyflwyno amrywiaeth eang o brosiectau gwyddorau perfformio, yn ogystal ag atgyfnerthu gweithgareddau ymchwil ac arloesi Chwaraeon Cymru.”

Meddai Owen Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Strategaeth Systemau Chwaraeon a Gwasanaethau Chwaraeon Cymru:

“Mae gan Chwaraeon Cymru flaenoriaeth strategol i dynnu sylw'r byd at Gymru drwy lwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol, gan wneud hynny drwy ymagwedd gyfannol at ddatblygu cystadleuwyr a chreu amgylcheddau lle gall pobl ffynnu. Er mwyn llwyddo ac ysgogi llwyddiannau yn y meysydd hyn, mae angen ymestyn ein gallu ymchwil er mwyn rhagori ar y gwledydd sy'n cystadlu â ni.

Mae Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru yn darparu'r gallu i wneud gwaith ymchwil hynod effeithiol sy'n cyd-fynd â'r blaenoriaethau strategol hyn a diben ehangach Chwaraeon Cymru o roi cyfle i chwaraeon ffynnu yng Nghymru.”

Bydd y model llwyddiannus y mae'r sefydliad wedi'i arloesi yn cael ei ddefnyddio cyn bo hir ar gyfer menter newydd a fydd hefyd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

Caiff manylion Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru eu rhyddhau'n fuan. Bydd y corff newydd hwn yn arwain y gwaith ymchwil ar hyrwyddo iechyd a lles drwy weithgarwch corfforol a chwaraeon, gan ganolbwyntio ar holl boblogaeth Cymru.

 

Rhannu'r stori