Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae’r llun yn dangos y gwaith celf ar glawr y llyfr Survivors.

Mae llyfr diweddaraf academydd o Brifysgol Abertawe, am blant a oroesodd yr Holocost, wedi cael ei gynnwys ar restr y Daily Telegraph o lyfrau hanes gorau 2020.

Dr Rebecca Clifford, athro cysylltiol hanes modern Ewrop ym Mhrifysgol Abertawe, yw awdur Survivors: Children's Lives After the Holocaust. Mae'r llyfr yn adrodd stori plant a oroesodd anrhefn a thrawma'r Holocost, ac yn ymchwilio am y tro cyntaf i hanes y plant hyn yn ystod y blynyddoedd a'r degawdau ar ôl y rhyfel. 

Yn y llyfr, mae Dr Clifford yn dilyn bywydau cant o blant Iddewig o adeg y rhyfel hyd at fod yn oedolion a chyrraedd henaint, gan ddefnyddio archifau a chyfweliadau. Mae Survivors yn archwilio olion hirdymor yr Holocost ac yn datgelu'r ffordd roedd yn rhaid i'r plant hyn – a adwaenid yn aml fel y rhai ffodus a lwyddodd i oroesi – frwydro i gael galw eu hunain yn oroeswyr o gwbl. Mae profiadau'r plant hyn a'r rhai a fu'n gofalu amdanynt – yn ogystal â'r rhai a wnaeth eu hastudio – yn cael eu holrhain hefyd yn y llyfr.

Meddai Dr Clifford: “Rwyf wrth fy modd bod fy llyfr wedi cael ei gynnwys ar restr y Daily Telegraph o lyfrau hanes gorau'r flwyddyn. Rwy'n gobeithio y bydd y llyfr yn helpu darllenwyr i ddeall y profiad o fyw drwy blentyndod llawn helbul a thristwch, yn ogystal â herio rhai rhagdybiaethau dwfn ynghylch natur trawma. ”

Mae Survivors: Children's Lives After the Holocaust gan Rebecca Clifford wedi'i gyhoeddi gan Yale.

Rhannu'r stori