Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Gwaith ymchwil rhyngwladol newydd yn archwilio ffordd o wrthsefyll Covid-19

Mae ymchwilwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn helpu i feithrin dealltwriaeth o'r feirws sy'n achosi Covid-19 a sut gellir mynd i'r afael ag ef. 

Mae coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2), cyfrwng achosegol Covid-19, wedi ysgubo drwy'r byd ar gyflymder digynsail. Ers iddo gael ei adnabod yn wreiddiol, mae mwy na 72 filiwn o bobl wedi cael eu heintio ac mae 1.61 filiwn o bobl wedi marw ledled y byd.

Mae gwyddonwyr Abertawe wedi cyfrannu at astudiaeth amlganolfan dan arweiniad Ysgol Feddygaeth Prifysgol Washington sy'n datgelu un o'r mecanweithiau moleciwlaidd imiwnedd cynhenid lletyol sy'n amddiffyn yn erbyn SARS-CoV-2 a sut mae'n atal y feirws rhag mynd i mewn i gell.

Ar ôl i rywun gael ei heintio â SARS-CoV-2, mae'r feirws yn mynd i mewn i gell ac yn rhyddhau ei asid riboniwcleig drwy broses o'r enw asio pilenni. Yn yr astudiaeth, rhoddwyd deilliad colesterol, 25-hydroxycholesterol, i gelloedd a gwelwyd ei fod yn atal y feirws rhag dyblygu drwy ddal y feirws a'i asid riboniwcleig mewn sylwedd amlbothellog.

Mae'r canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi ar-lein yn y cyfnodolyn Proceedings for the National Academy of Science (PNAS).

Meddai'r Athro Siyuan Ding, a fu'n arwain yr astudiaeth ym Mhrifysgol Washington: “Mae'n bwysig deall y ffordd y mae feirws yn rhyngweithio â lletywr er mwyn datblygu strategaeth wrthfirol. Mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn amlygu un mecanwaith gwrthfirol posib, 25-hydroxycholesterol, ac yn darparu sail i ddefnyddio'r cyfansawdd naturiol hwn i ddatblygu cyffuriau." 

Meddai'r Athro Yuqin Wang o Abertawe: “Mae 25-Hydroxycholesterol yn perthyn yn agos i golesterol sy'n cael ei ffurfio pan fo'r ensym colesterol 25-hydroxylase yn ymateb i haint feirol. Mae 25-Hydroxycholesterol a'i ddeilliadau'n effeithio mewn sawl ffordd ar ymateb llidiol y lletywr."

Ychwanegodd yr Athro William Griffiths: “Mae lefel 25-hydroxycholesterol mewn cleifion sydd wedi cael ei heintio â SARS-CoV-2 a'i rôl wrth amddiffyn y corff yn erbyn clefydau Covid-19 yn haeddu rhagor o waith ymchwilio.”


Mae colesterol 25-hydroxylase yn atal SARS-CoV-2 rhag dyblygu drwy rwystro pilenni rhag asio

Rhannu'r stori