Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Wind turbines on the coast Almost every component of a wind turbine is made of steel

Mae tri phrosiect ymchwil a allai helpu'r diwydiant dur i fod yn ddoethach ac yn wyrddach wedi cael caniatâd fel rhan o raglen ymchwil genedlaethol dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

Bydd y prosiectau'n archwilio systemau monitro electronig newydd sy'n gweithio mewn tymereddau uchel iawn, a dau ddull posib o leihau ymhellach yr allyriadau carbon sy'n deillio o gynhyrchu dur.

Ariennir y gwaith gan raglen SUSTAIN, sef rhwydwaith ymchwil gwerth £35m dan arweiniad Prifysgol Abertawe ar y cyd â Phrifysgol Sheffield a Phrifysgol Warwick. Ei nod yw trawsnewid sector dur y DU yn ddiwydiant carbon niwtral, diwastraff, digidol ystwyth sy'n ymateb i anghenion newidiol cwsmeriaid.

Mae gan SUSTAIN fwy nag 20 o bartneriaid ledled diwydiant dur y DU: gwneuthurwyr sylfaenol, cynrychiolwyr y gadwyn gyflenwi, cyrff masnach, arbenigwyr academaidd a sefydliadau ymchwil.

Yn gynharach eleni, galwodd tîm SUSTAIN am y tro cyntaf ar arbenigwyr dur ledled y DU i gyflwyno prosiectau astudio dichonoldeb. Y tri phrosiect oedd y rhai cyntaf i gael eu dewis i gael cyllid.

Meddai Dr Cameron Pleydell-Pearce, arbenigwr dur ym Mhrifysgol Abertawe a dirprwy gyfarwyddwr SUSTAIN:

“Mae ymchwil ac arloesi wrth wraidd diwydiant dur modern. Mae SUSTAIN yn dod â holl sector dur y DU at ei gilydd, gydag ymchwilwyr a chwmnïau'n cydweithredu ar raddfa ddigynsail.

Rydym eisoes yn agosáu at gynhyrchu dur mewn ffyrdd glân, gwyrdd a doeth, ond gall y tair astudiaeth hyn fynd â ni ymhellach yn gynt. Rydym yn falch o allu eu cefnogi fel rhan o raglen SUSTAIN ac rydym yn edrych ymlaen at weld eu datblygiad dros y misoedd i ddod.”

Datblygu electroneg ddibynadwy ar dymheredd uchel iawn (UHTRED): Dr Alton Horsfall a Dr Andrew Gallant, Prifysgol Durham

Yn y diwydiant dur, mae tymereddau gweithredu uwchben 400°C yn gyffredin ac mae'n hanfodol monitro deunyddiau a systemau dan yr amgylchiadau hyn. Fodd bynnag, nid yw transistorau sy'n seiliedig ar led-ddargludyddion yn addas i'w defnyddio mewn tymereddau eithafol.

Bydd yr astudiaeth hon yn archwilio'r defnydd o ddeunyddiau, dyluniadau a modelau cylchedau sy'n seiliedig ar dransistorau gwactod mân. Y nod yw dylunio dyfeisiau a chylchedau sy'n gallu gweithredu dros amrediad eang o dymereddau, o 25°C i 1000°C.

Dichonoldeb economaidd-dechnolegol cynigion allyriadau sero-net ar gyfer cynhesu metelau (THERMOS): Dr Yukun Hu, Coleg Prifysgol Llundain

Bydd yr astudiaeth hon yn canolbwyntio ar y broses o gynhesu metelau a'r cynigion allyriadau sero-net cynaliadwy, sy'n ymwneud â nwy hydrogen. Bydd y prosiect yn ymchwilio i'r posibilrwydd y gallai'r DU gynhesu ffwrneisi yn ei holl felinau rholio heb ddefnyddio carbon.

Defnyddir copi digidol o ffwrnais i ddangos y cynigion allyriadau sero-net. Dadansoddir hylosgi a chennu, gan ddefnyddio dynameg hylif gyfrifiadol a modelau cineteg gemegol. Bydd y gwaith yn cynnig dealltwriaeth newydd o'r llwybr trosiannol i ailgynhesu ffwrneisi a allai fod yn wendidau systemig mewn diwydiant dur gwyrdd.

Ffwrnais tiwb gollwng i ymchwilio i leihawyr newydd at ddibenion datgarboneiddio cynhyrchu haearn: Dr Julian Steer, Prifysgol Caerdydd

Bydd y prosiect hwn yn profi dichonoldeb defnyddio gwastraff carbonaidd na ellir ei ailgylchu (Subcoal®) fel deunydd lleihau amgen i'w chwistrellu mewn ffwrnais chwyth o bosib. Mae'n cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, TATA Steel UK ac N+P Recycling.

Mae Subcoal® yn gynnyrch papur a phlastig na ellir ei ailgylchu sy'n cynnwys llawer o garbon. Y nod yw cymharu Subcoal® fel dewis amgen, heb danwydd ffosil, yn hytrach na defnyddio lleihawyr glo. Os bydd yn llwyddo, bydd yn lleihau'r ddibyniaeth ar lo a gloddiwyd; yn lleihau'r deunydd papur a phlastig na ellir ei ailgylchu sy'n mynd i safleoedd tirlenwi; ac yn gwella ôl troed allyriadau carbon diwydiant dur y DU yn sylweddol gan fod 50% o garbon Subcoal® yn deillio o fiomas. 

SUSTAIN - darllenwch fwy

Arloesedd Dur - ymchwil Prifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori