Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Placiau Glas Tywyll y Brifysgol yn nodi mannau bythgofiadwy

Mae cwrdd â phartner oes, meithrin cyfeillgarwch a mwynhau gyrfa hir a hapus ymysg y profiadau bythgofiadwy sydd bellach yn cael eu coffáu ym Mhrifysgol Abertawe. 

Fel rhan o ddathliadau ei chanmlwyddiant eleni, gwahoddodd y Brifysgol fyfyrwyr, aelodau o staff a chyn-fyfyrwyr i rannu eu hatgofion arbennig o Abertawe.

Mae'r enwebiadau llwyddiannus – ochr yn ochr ag achlysuron ac unigolion nodedig eraill o 100 mlynedd y Brifysgol – bellach wedi cael eu nodi am yr oesoedd i ddod ar ffurf plac glas tywyll arbennig.

Nod prosiect y placiau yw dathlu pob agwedd ar fywyd y Brifysgol – o gyflawniadau myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol i gerrig milltir ymchwil a buddugoliaethau ar y maes chwarae – gan helpu i drawsnewid y campysau'n safleoedd hanes byw.

Cyfrannodd y goruchwylydd diogelwch Geraint Owen un o'r deg enwebiad llwyddiannus, gan awgrymu y dylid rhoi plac ger swyddfa'r porthor yn Nhŷ Fulton, lle dechreuodd ei swydd gyntaf fel porthor ym 1991. Yn ogystal â gweithio yn y Brifysgol ers bron 30 mlynedd, mae wedi gweld ei wyres yn graddio yno ddwywaith.

Ar ôl i'r plac gael ei ddadorchuddio, meddai Geraint: “Rwy'n teimlo'n freintiedig bod y plac hwn wedi cael ei osod yn fy enw. Diolch yn fawr.”

Codwyd plac arall wrth y traeth ar Gampws y Bae, lle dathlodd y cyn-fyfyriwr Ahmed Ibrahim a dau o'i ffrindiau gorau cyn graddio yn 2017.

Meddai Ahmed, sydd bellach yn ymgeisydd PhD yn yr Unol Daleithiau: “Rwyf wrth fy modd bod fy atgof wedi cael ei ddewis. Roeddwn am hel atgofion personol o Abertawe. Rwy'n ddyledus i'r Brifysgol, roedd fy amser yno'n amhrisiadwy ac mae'n amhosib talu teyrnged ddigonol mewn geiriau.”

Mae'r lleoliadau eraill sydd wedi derbyn plac yn cynnwys yr hyn a adwaenir fel bar JC bellach ar Gampws Singleton. Yn y man hwn cyfarfu Jane Tonks a Tony Clements fel myfyrwyr ym mis Hydref 1978. Maent yn dal i ddychwelyd yn aml 42 o flynyddoedd yn ddiweddarach ar ôl magu tri phlentyn a mwynhau dwy yrfa werthfawr.

Meddai Jane: “Dyma newyddion braf iawn, yn enwedig gan fod pen-blwydd ein cyfarfod cyntaf ar ddod. Mae'n fraint bod ein hatgof wedi cael ei ddewis.”

Lluniodd yr hanesydd Sam Blaxland ac Emily Hewitt, o Archifau Richard Burton, restr o gerrig milltir a phobl eraill. Mae'r rhain yn cynnwys y nofelydd Kingsley Amis, a addysgodd yn y Brifysgol am ddeuddeng mlynedd; yr Athro Florence Mockeridge, y cyn-bennaeth botaneg ysbrydoledig; a hyd yn oed y Brenin Siôr V, a osododd y garreg sylfaen wreiddiol ym 1920.

Mae'r Brifysgol bellach yn comisiynu mapiau wedi'u teilwra a fydd yn manylu ar leoliadau'r placiau ac mae’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'w mwynhau pan fydd y rheoliadau cyfyngiadau symud yn caniatáu hynny. Yn y cyfamser, gall ymwelwyr archwilio pob plac yn ddigidol drwy fynd i'w tudalennau gwe, lle gellir dysgu mwy am bob atgof.

Mwy o wybodaeth am y prosiect a'r straeon y tu ôl i'r placiau.

Rhannu'r stori