Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Nod y platfform newydd hwn fydd creu gwell cysylltiad rhwng gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr

Nod y platfform newydd hwn fydd creu gwell cysylltiad rhwng gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr

Mae tîm ymchwil, dan arweiniad Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yn datblygu marchnadle peilot ar-lein, gyda’r bwriad o optimeiddio rhwydweithiau cadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu a chreu model busnes newydd ar draws y diwydiant.

Nod y platfform newydd hwn fydd creu gwell cysylltiad rhwng gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr, fel bod modd darparu gwasanaeth cyrchu a dethol cynnyrch/prosesau mwy uniongyrchol, wedi’i deilwra at anghenion y diwydiant, gyda chefnogaeth y Sefydliad Arloesi ym maes Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifiadol (IMPACT)

Ar y cychwyn bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu o Gymru, gyda’r nod o greu templed ar gyfer marchnadle cadwyn gyflenwi ddigidol arloesol (DSCM) y gellir ei efelychu’n genedlaethol ac yn fyd-eang.

Un o’r cwmnïau cyntaf i dreialu’r platfform newydd fydd y cwmni o Abertawe, MyMaskFit. Eu nod yw cynhyrchu masgiau PPE ffitiad unigryw i’w defnyddio yn ystod pandemig COVID-19 ac wedi hynny. Bydd cwsmeriaid yn anfon delwedd wedi’i sganio o’u hwyneb at y cwmni trwy ap a luniwyd i gofnodi’r dimensiynau angenrheidiol i greu’r cynnyrch wedi’i deilwra.

Yn aml yr her y mae llawer o gwmnïau fel MyMaskFit yn ei hwynebu yw creu cadwyn gyflenwi newydd a chael hyd i’r cynnyrch a’r gwasanaethau niferus sy’n ofynnol i ddod â chynnyrch wedi’u rheoleiddio i’r farchnad.

Bydd y bartneriaeth newydd hon, sy’n cyfuno arbenigedd a rennir ag arbenigwyr yn y diwydiant ac ymchwilwyr o WMG, Prifysgol Warwick a’r Ganolfan Technoleg Gweithgynhyrchu, yn cynnig mynediad i gwmnïau fel MyMaskFit at farchnad mwy agored a deinamig, gan roi mwy o gyfle i Fentrau BaCh yn y Deyrnas Unedig. Dylai gwneud marchnadoedd yn fwy effeithlon a hyblyg gynyddu cynhyrchiant ac agor cadwyni gwerth newydd trwy fedru estyn yn ehangach.

Meddai'r Athro Johann Sienz, arweinydd y prosiect, Dirprwy Ddeon Gweithredol Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, a Chyfarwyddwr IMPACT.:

“Her marchnadleoedd presennol yw bod perthnasedd ac ansawdd y data yn galw am graffu ac ymyrraeth â llaw.  Bydd y farchnadle hon yn cael ei llunio i ddarparu gwelededd a mynediad at brosesau cadwyn gyflenwi, a bydd yn cyflwyno data perthnasol, byw ac wedi’i ddilysu ar gyfer gwneud penderfyniadau. Bydd yn werthfawr i’r cyflenwr trwy greu ‘un cyflenwr ar gyfer cwsmeriaid niferus’ gyda manteision ychwanegol lleihau costau gweinyddu, a mwyafu trosoledd cyfeintiau, gyda llai o angen am integreiddio TG.

Bydd y gwely profi hwn, sy’n un ‘Gwneuthuriad Clyfrach’, yn dempled ar gyfer creu marchnadleoedd cadwyn gyflenwi ddigidol eraill i wasanaethu sectorau, ardaloedd daearyddol ac elfennau fertigol eraill, er enghraifft cymunedau neilltuedig ar gyfer diwydiannau a reoleiddir yn fanwl, lle mae gallu ymddiried yn integriti a diogeledd gwybodaeth a mynediad ati yn hanfodol.”

Bydd y DSCM newydd hwn, a seilir ar adborth o’r diwydiant, yn cynnig nodweddion y mae mawr angen amdanynt, megis cywirdeb a thrachywirdeb ar gyfer rhannau; cywirdeb prisio; lleihau amserau ymateb cyflenwyr o wythnosau i oriau; a darparu opsiynau gyda chyfnodau datblygu deinamig ac ansawdd, cost a sicrwydd – fel bod proses y gadwyn gyflenwi yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.

Fel y dywedodd Valerie Bednar, Cyfarwyddwr MyMaskFit:

“Mae MyMaskFit yn falch o gyflwyno rhaglen i Wely Profi Gwneud Gweithgynhyrchu’n Glyfrach, lle rydym ni’n gobeithio profi ein llwyddiant wrth gyrchu cydrannau ein masg gradd feddygol Amldro, Ffitiad Unigryw yn y farchnadle cadwyn gyflenwi ddigidol a reoleiddiwyd." 

Fel rhan o’r prosiect 6-mis hwn, mae bwriad i uwchraddio gweithrediadau gweithgynhyrchu yn gyflym gyda’n partneriaid gweithgynhyrchu – gan gynnwys offer cydweithio yn y cwmwl gan y cwmni meddalwedd dylunio a gweithgynhyrchu, Autodesk.

Dyma oedd sylw Asif Moghal, Uwch Reolwr Diwydiant, Dylunio a Gweithgynhyrchu yn Autodesk:

“Mae hon yn enghraifft arall wych o’r diwydiant yn dod at ei gilydd er mwyn ymateb i her newydd. Mae’n hanfodol amddiffyn ein gweithwyr allweddol, ac mae gennym ni gyfle i ddysgu gwersi newydd o’r prosiect datblygiad cyflym hwn gyda masgiau personol. Rydym ni’n hyderus y bydd hwn yn gam trawsffurfiannol i’r diwydiant, gyda photensial i symud i raddfa fyd-eang a throsglwyddo’r hyn a ddysgwyd i ddiwydiannau eraill.”

Yn ôl Jan Godsell, Athro Gweithrediadau a Strategaeth Cadwyn Gyflenwi, WMG, Prifysgol Warwick:

“Mae ffactorau mawr sydd wedi amharu ar bopeth, fel COVID-19, wedi herio dyluniad confensiynol a statig cadwyni cyflenwi. Mae gan farchnadleoedd rôl bwysig i’w chwarae yn cysylltu gweithgynhyrchwyr y Deyrnas Unedig â’r galw sy’n dod i’r amlwg am gynnyrch a gwasanaethau newydd. Maen nhw’n cefnogi datblygiad mathau newydd o fodelau busnes a dyluniadau cadwyn gyflenwi ddeinamig, a fydd yn sylfaen ar gyfer dyfodol gweithgynhyrchu yn y Deyrnas Unedig. Bydd offer, mapiau ffordd a glasbrintiau hunanasesu yn cael eu darparu trwy Hwb Arloesedd Cadwyn Gyflenwi ISCF, fel bod modd i gwmnïau ar draws y Deyrnas Unedig fanteisio ar y cyfleoedd hyn.”

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan raglen Gwneud Gweithgynhyrchu’n Glyfrach ISCF a bydd yn dod i ben ym mis Mai 2021. Mae’r partneriaid diwydiannol hefyd yn cynnwys Plyable, Amplyfi, AI Idea Factory, PXL ICE, Carapace, Cadarn a Diwydiant Cymru.

Mae rhaglen IMPACT yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori