Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Adeiladau carbon isel

 Ystafell Ddosbarth Ynni Gweithredol a'r Swyddfa Ynni Gweithredol, Prifysgol Abertawe

Mae'r tîm a wnaeth ddylunio ac adeiladu dau adeilad carbon isel ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cynhyrchu eu hynni eu hunain, yn cyhoeddi pecyn cymorth sy'n nodi'r egwyddorion dylunio a ddefnyddiwyd. Y nod yw annog eraill i adeiladu'r “Adeiladau Ynni Gweithredol” hyn gan y byddai hynny'n lleihau ôl troed carbon y DU yn sylweddol; ar hyn o bryd, mae 40% o'n hallyriadau'n deillio o wresogi a phweru ein hadeiladau.

Cafodd yr egwyddor y tu ôl i ddylunio adeiladau ynni gweithredol ei harloesi gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe. Mae'n cyfuno technolegau ynni adnewyddadwy o fewn un system ddeallus, gan integreiddio pob un ohonynt yn yr adeilad, a darparu ynni carbon isel i ddeiliaid eiddo ar gyfer gwres, pŵer a chludiant.

Profwyd bod hyn yn gweithio mewn dau adeilad arobryn ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe – yr Ystafell Ddosbarth Ynni Gweithredol a'r Swyddfa Ynni Gweithredol – sydd wedi bod ar waith ers mwy na dwy flynedd. Gall y ddau adeilad gynhyrchu a storio digon o ynni solar i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, yn ogystal â gwefru cerbydau trydan neu rannu ynni dros ben ag adeiladau eraill.

Lluniwyd y pecyn cymorth er mwyn rhannu'r egwyddorion a ddefnyddiwyd yn yr Adeiladau Ynni Gweithredol a dysgu gwersi oddi wrthynt, gyda'r nod o annog pobl eraill i'w mabwysiadu neu wella arnynt a chefnogi defnydd ehangach o ddyluniadau carbon isel.

Drwy ryddhau'r pecyn yn ystod ‘Wythnos Gwres’ SPECIFIC, ar yr un pryd ag Wythnos Hinsawdd Cymru, bydd yn cynyddu ymwybyddiaeth o her systemau gwres carbon isel mewn adeiladau.

Mae'r pecyn cymorth ar gael yma 

Meddai'r awdur, Joanna Clark, pensaer yr Ystafell Ddosbarth Ynni Gweithredol a'r Swyddfa Ynni Gweithredol:

“Mae'r ffordd rydym yn gwresogi ac yn pweru ein hadeiladau'n gyfrifol am 40% o allyriadau carbon y DU, ac mae'n rhaid i hynny newid. Mae 85% o gartrefi yn y DU yn defnyddio boeleri nwy at ddibenion gwresogi, ond fe'u gwaherddir mewn cartrefi newydd o 2025. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd gam ymhellach drwy ddatgan y bydd yn rhaid defnyddio ffynonellau ynni glân i wresogi a phweru cartrefi newydd erbyn hynny. Dim ond pum mlynedd sydd gennym. A ydym yn barod?”

Ychwanegodd yr Athro Dave Worsley, Prif Ymchwilydd SPECIFIC:

“Dyma ganllaw ardderchog a fydd yn helpu dylunwyr i fynd i'r afael â'r cymhlethdodau sy'n deillio o ddylunio Adeiladau Ynni Gweithredol. Gall unrhyw un gael gafael arno'n hawdd ac mae ganddo'r manylion a'r cyfeiriadau y mae eu hangen i gefnogi'r defnydd eang o ddyluniadau adeiladau carbon isel.

Rydym o'r farn bod gennym brofiad i'w rannu ond rydym hefyd yn awyddus i ddysgu gwersi oddi wrth bobl eraill. Dim ond os bydd y sector cyfan yn cydweithio y gellir newid pethau.”

Mae'r awdur hefyd yn cynnal gweithdai gyda phenseiri a sefydliadau. A wnewch chi e-bostio info_specific@abertawe.ac.uk.

Ariennir gwaith SPECIFIC gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Innovate UK ac EPSRC.

Darllenwch fwy - Dyfodol Cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd

Rhannu'r stori