Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Nyrs yn gofalu am hen fenyw yn ei chartref

Mae'r astudiaeth gyntaf i nodi risg COVID-19 i weithwyr gofal cartref ledled Cymru yn cael ei lansio heddiw.

Credir bod y pandemig wedi cael effaith fawr ar iechyd 20,000 o weithwyr sy'n cynnig gofal a chymorth personol i'r henoed neu bobl sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu arnynt yn eu cartrefi eu hunain.

Y sefydliad Ymchwil ac Arloesi yn y DU sy’n ariannu’r astudiaeth, a arweinir gan Brifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac a gefnogir gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Bydd yr astudiaeth yn asesu iechyd gweithwyr gofal cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys effaith haint COVID-19 ei hun, eu hiechyd meddwl a chlefydau eraill.

Bydd yr ymchwilwyr yn cyfuno data cofnodion iechyd arferol a chyfweliadau â gweithwyr gofal cartref i lunio darlun cyffredinol o’r ffordd y mae'r gweithwyr hyn wedi ymdopi yn ystod y pandemig.

Y gobaith yw y bydd hyn yn sicrhau canlyniadau cyflym i lywio mentrau iechyd cyhoeddus ar arferion gweithio mwy diogel a chymorth ychwanegol ar gyfer staff yng Nghymru ac yng ngwledydd eraill y DU.

“Mae llawer o bobl wedi gweithio gartref yn ystod y pandemig, ond mae gweithwyr gofal cartref wedi parhau i helpu a chefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas drwy gydol y cyfnod digynsail hwn,” meddai’r Athro Mike Robling, Cyfarwyddwr Treialon Iechyd y Boblogaeth yng Nghanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd a'r prif ymchwilydd ar yr astudiaeth.

“Rydym eisoes yn gwybod o ddata iechyd cyhoeddus cynnar fod risg COVID-19 wedi bod yn fwy ar gyfer yr aelodau hyn o staff na gweithwyr gofal iechyd, yn rhannol gan fod eu gwaith yn cynnwys cyswllt agos â chleientiaid yn eu cartrefi.

“Dyma boblogaeth fawr o weithwyr gweddol agored i niwed sydd â sgiliau uchel, ac mae'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu yn hysbys. Gobeithio y bydd ein gwaith yn helpu i wella iechyd a diogelwch y gweithlu hollbwysig hwn i’r DU fel y gellir parhau i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol hwn."

Bydd yr astudiaeth 18 mis yn mesur achosion o haint COVID-19 sydd wedi’u tybio a’u cadarnhau, ynghyd â’r effaith ar iechyd, gan gynnwys ar nifer y marwolaethau. Bydd hefyd yn cymharu tueddiadau o ran iechyd meddwl a chlefydau anadlol eraill cyn ac ar ôl y pandemig.

Cynhelir cyfweliadau â 30 o weithwyr gofal hefyd lle byddant yn trafod eu profiadau o gyfarpar diogelu personol, ymysg pethau eraill, ac unrhyw bryderon sydd ganddynt am arferion gweithio neu'r hyn y gofynnir iddynt ei wneud.

“Bydd hyn yn ein helpu i lunio model a all ddangos sut mae rhai unigolion yn wynebu mwy o risg nag eraill,” dywedodd yr Athro Robling.

“Gall y risg fod yn gysylltiedig ag oedran, ethnigrwydd, ffactorau iechyd gwaelodol neu ffactorau economaidd-gymdeithasol a demograffig eraill.

“Yn hollbwysig, byddwn yn archwilio a fydd ein canfyddiadau'n berthnasol i rannau eraill o’r DU.

“Rydym yn gallu cynnal y gwaith hwn yma yng Nghymru oherwydd y ffordd rydym yn cofnodi data ar gyfer gweithwyr gofal – ni fyddai'r astudiaeth hon yn bosibl mewn gwlad arall yn y DU.

“Rydym yn gobeithio wrth i'n canfyddiadau ddod i'r amlwg y byddwn yn gallu nodi ffactorau risg cyffredinol sy'n berthnasol ledled y DU fel y gellir defnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu polisi a chymorth iechyd cyhoeddus gwell ar gyfer gweithwyr gofal ar unwaith.”

Meddai Ashley Akbari,  Uwch-reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe ac un o gyd-ymgeiswyr yr astudiaeth: “Rydym yn falch y bydd yr astudiaeth hon yn defnyddio’r banc data SAIL. Mae SAIL yn cynnig amgylchedd ymchwil o'r radd flaenaf y gellir ymddiried ynddo ac sy'n diogelu preifatrwydd. Mae'n hwyluso'r astudiaeth hon drwy'r prosesau isadeiledd, cysylltu a llywodraethu a gafodd eu sefydlu a'u datblygu dros y 10 mlynedd diwethaf, yn ogystal â'r perthnasoedd a'r rhwydweithiau gwirioneddol ardderchog sydd wedi cael eu creu ledled Cymru rhwng darparwyr data a'r cyhoedd yn gyffredinol, sy'n elfen allweddol o'n cydweithrediad a'n llwyddiant. Gan weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a rhanddeiliaid y corff hwnnw, byddwn bellach yn ceisio cysylltu data newydd ac anghyfarwydd â SAIL, rhywbeth na wnaed o'r blaen, er mwyn ymchwilio i'r amcan ymchwil allweddol ac amserol hwn yn ystod pandemig presennol COVID-19.” 

Cafodd yr astudiaeth £332,000 mewn cyllid o’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhan o’r sefydliad Ymchwil ac Arloesi yn y DU, fel rhan o'i alw am ymchwil i archwilio effaith COVID-19.

Rhannu'r stori