Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Gwobrau diabetes: Llwyddiant dwbl i'r Brifysgol

Vicki Alabraba a Rose Stewart.

Mae uwch-diwtor er anrhydedd a myfyriwr gradd meistr o Brifysgol Abertawe wedi cael eu hanrhydeddu am eu hymroddiad i ofal diabetes mewn seremoni fawr i wobrwyo gweithwyr gofal iechyd yn y DU. 

Enillodd Dr Rose Stewart, sy'n darlithio ar y cwrs MSc mewn Ymarfer Diabetes yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, wobr GIG Cymru am y cyfraniad gorau at faes diabetes yn seremoni Gwobrau Diabetes Quality in Care (QiC).

Yn ogystal, cipiodd y wobr uchel ei bri am fod yn seren anhysbys yn y seremoni, a gynhaliwyd ar ffurf rithwir eleni.

Disgrifiwyd Dr Stewart, prif seicolegydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel un o'r sêr disgleiriaf ym maes gofal diabetes gan y beirniaid.

Gwnaethant ddweud bod ei gwaith wedi arddangos i'r dim fod unigolion yn gallu ysgogi newidiadau a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd claf.

Ochr yn ochr â'i gwaith clinigol, gwnaeth Dr Stewart lunio Talking Type 1, sef cyfres o lyfrau hunangymorth i oedolion a phlant sy'n byw gyda diabetes, a rhieni plant sy'n byw gyda diabetes. Cafodd dau o lyfrau'r gyfres glod mawr yng nghategori'r wobr am gadw corff ac enaid ynghyd.

Meddai: “Ing seicolegol yw'r cymhlethdod mwyaf cyffredin sy'n deillio o fyw gyda diabetes, ond dyma'r maes gofal sy'n cael yr adnoddau mwyaf annigonol o hyd. Gall gweithio ym maes seicoleg diabetes deimlo fel llafur caled weithiau, felly mae derbyn y fath gydnabyddiaeth yn annisgwyl iawn ac yn anrhydedd anferth.”

Rhywun arall a gafodd ei gwobrwyo oedd Vicki Alabraba, sy'n astudio am MSc mewn Ymarfer Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe ochr yn ochr â'i dyletswyddau fel nyrs arbenigol mewn diabetes yn y gymuned ym Mhartneriaeth Diabetes Lerpwl (Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Lerpwl).

Fe'i henwyd yn weithiwr diabetes proffesiynol y flwyddyn ym maes diabetes am ddefnyddio Twitter, Facebook, Instagram, tudalennau gwe a Tik-Tok i rannu ei harbenigedd a'i brwdfrydedd dros symbylu cleifion a gofalwyr i reoli eu hunain. Mae hefyd wedi defnyddio'r dull gweithredu er mwyn cefnogi cydweithwyr gofal sylfaenol ym maes gofal diabetes, gan ysgogi'r beirniaid i ddweud bod ei gwaith yn ysbrydoliaeth.

Meddai Vicki: “Mae gan Lerpwl boblogaeth amrywiol iawn sy'n golygu bod angen i gymorth ac addysg fod yn arloesol, yn hygyrch iawn ac yn benodol i gymunedau gwahanol.

“Gall defnyddio fideos a'r cyfryngau cymdeithasol helpu i gynyddu ymwybyddiaeth, cyfeirio pobl a gwneud addysg yn ddifyr. Mae hyn hefyd yn hwyluso cysylltiadau ehangach rhwng pobl sy'n byw gyda diabetes a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ym maes gofal diabetes.

“Mae pobl sy'n byw gyda diabetes yn gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am dair awr y flwyddyn ar gyfartaledd, gan olygu bod yn rhaid iddynt reoli'r cyflwr cymhleth hwn eu hunain fel arall.

“Fy nod yw pontio'r bwlch drwy gynnig adnoddau hygyrch ac arloesol i rymuso pobl sy'n byw gyda diabetes i barhau i reoli eu hunain. Rwy'n falch iawn o gael fy enwebu gan fy nghydweithwyr ac roedd fy muddugoliaeth yn hollol annisgwyl.”

Mae gwobrau QiC wedi cael eu cyflwyno ers 2011 ac maent yn cydnabod arferion da ym maes gofal cleifion a chydweithio, gan geisio tynnu sylw at arferion da a rhoi cyfle i'r rhain gael eu rhannu'n genedlaethol.

Daeth sawl llwyddiant arall i Gymru eleni, gan gynnwys rhaglen addysgol SEREN, sef Connect, a gipiodd ddwy wobr, a chydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a enillodd y wobr am atal, gwella dros dro a gwneud diagnosis cynnar.

Mwy o wybodaeth am y gwobrau a'r holl enillwyr. 

Rhannu'r stori