Academyddion yn galw am glinigau triniaeth gamblo GIG yng Nghymru

Mae academyddion Prifysgol Abertawe wedi galw am glinigau triniaeth anhwylder gamblo GIG i’w sefydlu yng Nghymru, wrth i lythyr, a gyhoeddwyd yn The Lancet ddatgelu effaith difrifol y broblem o gamblo yng Nghymru, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. 

Maent hefyd yn awgrymu y gallai canlyniad pandemig Covid-19 weld cynydd mewn gamblo yng Nghymru, gan arwain at yr angen am driniaeth effeithiol i’r rheiny sy’n profi niwed yn ymwneud â gamblo.

Arweiniodd academyddion o Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe yr alwad gydag aelodau Rhwydwaith Ymchwil, Addysg a Thriniaeth Gamblo (GREAT) Cymru i amlinellu ymchwil a ddengys bod pobl yng Nghymru yn arbennig o agored i gamblo problemus.

Yn ôl Arolwg Gamblo Problemau Cymru (2016), nodwyd 3.8% o’r boblogaeth naill ai fel gamblwyr problemus neu yn y categori gamblwyr sydd mewn perygl, gyda’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o niwed cysylltiedig â gamblo rhwng 16 a 24 mlwydd oed.

Mae ymchwil hefyd yn dangos bod gamblo problemus yng Nghymru yn deillio o ystod gymhleth o faterion sy'n cael effaith gymdeithasol negyddol gydag amcangyfrif o gost gyhoeddus rhwng £40-70m y flwyddyn.

Mae’r llythyr yn amlygu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi amcangyfrif bod y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn fwyfwy bregus i niweidiau’n ymwneud â gamblo, wedi ei seilio ar ffactorau megis:

  • niferoedd y boblogaeth leol.
  • argaeledd o wasanaethau triniaeth.
  • pellter o safleoedd triniaeth.

Mae'r pandemig COVID-19 parhaus hefyd wedi cael effaith, gydag arolwg gan y Comisiwn Gamblo yn canfod bod 24% o ymatebwyr o Gymru wedi nodi eu bod wedi treulio mwy o amser a / neu arian ar un neu fwy o weithgareddau gamblo.

Mae'r llythyr yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Meddygol Cymru wedi blaenoriaethu mynd i'r afael â'r niwed a achosir gan anhwylder gamblo ac wedi cymryd camau i leihau canlyniadau iechyd y cyhoedd trwy ddarparu cwnsela ar-lein am ddim i bobl â phroblemau gamblo a gwella'r cysylltiadau â chefnogaeth i bobl sy'n cael triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau, ymhlith mentrau eraill.

Mae astudiaethau peilot ar gyfer adnabod ac ymyrryd yn gynnar ar gyfer problemau gamblo a datblygu llwybrau atgyfeirio triniaeth hefyd ar y gweill mewn dau fwrdd iechyd yng Nghymru, tra bod gan ymchwil ar gamblo sylfaen gynyddol ym mhrifysgolion Cymru.

Meddai’r Athro Simon Dymond o Brifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr GREAT Network Wales: “Er gwaethaf yr holl weithgaredd cadarnhaol hwn yng Nghymru, mae'n siomedig iawn nodi nad oes clinigau anhwylder gamblo a ariennir gan y GIG yma ar hyn o bryd, tra bod chwe chlinig gamblo GIG yn Lloegr, gyda saith arall ar y gweill.

"Mae'n anochel bod absenoldeb darpariaeth triniaeth leol y GIG yn arwain at atgyfeiriadau canlyniadol i rywle arall."

Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Ers Ionawr 2017, mae 18 atgyfeiriad o Gymru i’r National Problem Gambling Clinic yn Llundain, sydd ychydig dros 1% o holl atgyfeiriadau clinigol.
  • Rhwng 2015 a 2018, fe wnaeth 4% o alwyr i’r National Gambling Helpline roi cod post o Gymru.
  • Mae’r cleientiaid o Gymru a welwyd gan rwydwaith o bartneriaid GamCare wedi cynyddu o 213 (2018-2019) i 285 (2019-2020 – sy’n cynnwys y rheiny gyda phroblemau gamblo a hefyd eraill sydd wedi eu heffeithio.
  • Lleoliadau triniaeth leol eraill, megis gwasanaeth The Living Room Curo’r Bwci Caerdydd wedi gweld cyfanswm llwyth achosion o 142 o unigolion ers 2015.

Meddai’r Athro Dymond: “Mae’r angen am wasanaethau anhwylder gamblo a ariennir gan y GIG yng Nghymru yn amlwg, ac rydym yn galw ar frys ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei hawdurdod datganoledig i fynd i’r afael â’r anghysondeb hwn.” 

Rhannu'r stori