Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae'r adnoddau'n hyrwyddo gweithgareddau fel pobi gartref.

Mae'r adnoddau'n hyrwyddo gweithgareddau fel pobi gartref. 

Cafodd mwy na mil o ddisgyblion yn ne Cymru eu helpu i astudio yn ystod y cyfyngiadau symud, diolch i brosiect y mae Prifysgol Abertawe'n cymryd rhan ynddo. 

Gwnaeth Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru greu pecynnau llawn gweithgareddau addysgol difyr a oedd yn addas at y diben o'u cwblhau gartref a'u hanfon at 1,105 o bobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud.

Roedd yr adnoddau'n boblogaidd iawn gyda disgyblion yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas, a gafodd 580 o becynnau ar ddiwedd tymor yr haf.

Roedd y rhain yn cynnwys pecyn cymorth i greu eu llysnafedd eu hunain, gweithgareddau am fywyd myfyrwyr, gan gynnwys dolenni i fideos am arweinwyr Ymgyrraedd yn Ehangach o blith myfyrwyr, yn ogystal â deunyddiau i greu deunydd ysgrifennu a sbectol realiti rhithwir.

Anfonwyd deunyddiau adolygu, testunau gosod ar gyfer Cwrs TGAU Llenyddiaeth Saesneg a chyfrifiannell wyddonol i helpu i astudio cwrs TGAU Mathemateg at ddisgyblion ym Mlynyddoedd 10 ac 11.

Meddai un disgybl: “Roeddwn yn dwlu ar y pecyn llysnafedd ac yn mwynhau ei greu.” Disgrifiodd disgybl arall y gweithgareddau fel rhywbeth llawn hwyl.

Hwyluswyd y fenter gan gefnogaeth ysgolion, cynghorwyr a gofalwyr maeth, yn ogystal ag elusennau lleol, gan gynnwys The Roots Foundation.

Mae'r Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach, sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe, yn gweithio gyda disgyblion, teuluoedd ac oedolion o ardaloedd difreintiedig yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr a Sir Benfro, ochr yn ochr â gofalwyr a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal o bob rhan o'r rhanbarth.

Ar ben hynny, derbyniodd disgyblion cynradd yn Abertawe a Chwm Afan becynnau a oedd yn cynnwys llyfrynnau gweithgareddau ar thema prifysgol, gweithgareddau lliwio'n ymwneud â gyrfaoedd ym maes celf, yn ogystal â thasg yn seiliedig ar awyren i ysbrydoli peirianwyr y dyfodol.

Anfonwyd y gweithgareddau hyn at 138 o bobl ifanc sy'n derbyn gofal yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, 190 o ofalwyr ifanc a 70 o bobl ifanc o'r gymuned sipsiwn a theithwyr.

Meddai Swyddog Digwyddiadau a Grwpiau Bregus Ymgyrraedd yn Ehangach, Helen Davies: “Rydym bellach wedi anfon gweithgareddau dilynol at aelodau'r grwpiau hyn, gan gynnwys pecyn ar gyfer pobi gartref a phrosiect brasluniau.

“Roeddem am atgoffa'r bobl ifanc hyn nad oeddent wedi cael eu hanghofio yn ystod y cyfyngiadau symud ac rydym wedi cael adborth ardderchog.”

Dywedodd un person ifanc fod y pecynnau'n wych. Meddai un arall: “Roedd y gweithgaredd yn llawn hwyl, gan fy nghadw'n brysur am wythnos. Roeddwn wrth fy modd.”

Mae tîm Ymgyrraedd yn Ehangach bellach yn gweithio ar becynnau dilynol ar gyfer disgyblion Ysgol Dylan Thomas, yn ogystal â chyfathrebu ag ysgolion lleol er mwyn rhoi mwy o gymorth yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol.

Rhannu'r stori