Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Adeilad CISM

Adeilad CISM (Llun: Stride Treglown)

Mae cyfleuster newydd o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn cyfuno ymchwil arloesol â datblygu technoleg ym maes peirianneg a gwyddor lled-ddargludyddion gam yn agosach ar ôl dyrannu'r prif gontract adeiladu i Kier ar gyfer y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM) ar Gampws y Bae.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar yr adeilad tri llawr, a fydd yn 4,320 metr sgwâr ac a fydd yn gartref i amgylchedd saernïo glân i arwain y diwydiant, labordai ymchwil a chyfleusterau swyddfa. Bydd gan yr adeilad fframwaith concrid dur, â chladin cyfansawdd a tho bitwmen tawdd. Bydd Kier yn defnyddio technegau adeiladu ynni effeithlon a thechnoleg ynni adnewyddadwy, gan gynnwys dulliau solar ffotofoltäig ac adfer gwers ar y prosiect.

Drwy gydol y prosiect, bydd Kier yn gweithio gyda'i gadwyn gyflenwi leol, gan gynnwys oddeutu 20% o ardal Abertawe, er mwyn cwblhau'r gwaith adeiladu hwn. Bydd y tîm yn dilyn cyngor diweddaraf y Llywodraeth ynghylch coronafeirws COVID-19 ac yn gweithio yn unol â'r gweithdrefnau ar gyfer gweithredu safleoedd.

Mae'r cyfleuster eisoes wedi cael cyllid gan Gronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU (UKRPIF), a weinyddir gan Research England mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a chaiff ei leoli yn yr ardal beirianneg ar Gampws y Bae.

Disgwylir i CISM gael ei chwblhau yn 2022 a bydd yn rhoi cymorth ymchwil ac arloesi allweddol i glwstwr CSconnected, sef rhwydwaith cynyddol o bartneriaid rhanbarthol yn y diwydiant lled-ddargludyddion, gan gynnwys IQE, SPTS Technologies a Newport Wafer Fab. Mae partneriaid y clwstwr hefyd yn cynnwys Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn ymdrech gydlynol iawn i sicrhau bod gan faes gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion yn y rhanbarth ddigon o adnoddau a mantais gystadleuol.

Bydd y ganolfan mewn sefyllfa unigryw i sicrhau buddion economaidd a chymdeithasol ar gyfer de Cymru, yn enwedig yn ystod y cyfnod ar ôl Covid-19, gan y bydd ei chyfleusterau a'i gwaith ymchwil o'r radd flaenaf yn cyflwyno cyfleoedd newydd y bydd poblogaeth leol fedrus yn gallu achub arnynt ac a fydd yn cadw busnesau lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y rhanbarth.

Meddai'r Athro Paul Meredith, Cadeirydd Ymchwil Sêr Cymru ac arweinydd prosiect CISM Prifysgol Abertawe: “Rwy'n falch y bydd Kier Construction yn adeiladu CISM, a fydd yn allweddol wrth roi lle blaenllaw i Gymru yn y diwydiant lled-ddargludyddion yn y DU, sy'n tyfu'n gyflym. Ar ôl i adeilad CISM gael ei gwblhau, bydd yn ganolbwynt i gysylltu gwaith ymchwil, arloesi a gweithgynhyrchu er mwyn ysgogi cynnydd economaidd yn y rhanbarth hwn.”

Meddai Jason Taylor, cyfarwyddwr gweithrediadau adeiladu rhanbarthol Kier yn y gorllewin ac yng Nghymru: “Bydd y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol yn adeilad allweddol wrth gynorthwyo cynnydd y diwydiant lled-ddargludyddion yn y DU. Rydym yn falch bod Prifysgol Abertawe wedi ein penodi i adeiladu'r cyfleusterau cyfoes hyn a fydd yng nghanol ei hardal beirianneg.

“Mae'r dyfarniad diweddaraf hwn yn atgyfnerthu ein perthynas â Phrifysgol Abertawe, ar ôl ein gwaith ar adeilad Impact y llynedd, yn ogystal â nifer o brosiectau ailwampio eraill dros y pum mlynedd diwethaf. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n cadwyn gyflenwi leol er mwyn cyflawni'r prosiect pwysig hwn i'r brifysgol.”

Ychwanegodd Chris Meadows, Cyfarwyddwr CSconnected Ltd:  “Mae Cymru wedi creu sefyllfa fanteisiol fel pŵer byd-eang ym maes lled-ddargludyddion uwch sy'n ysgogi technolegau'r genhedlaeth nesaf. Byddwn yn croesawu CISM i deulu CSconnected a fydd yn chwarae rôl allweddol yn y clwstwr, gan ategu ac atgyfnerthu'r dechnoleg a gynigir ledled ein rhanbarth.”

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Mae'n gyffrous gweld y prosiect mawr hwn yn cyrraedd carreg filltir arall, yn enwedig yn ystod cyfnod mor anodd. Mae prosiect CISM yn adlewyrchu cryfder de Cymru ym maes technoleg lled-ddargludyddion, ac mae'n esiampl o'r ffordd y gall prifysgolion gydweithio'n llwyddiannus â diwydiant a'r llywodraeth er mwyn creu cynnydd economaidd a arweinir gan arloesedd.

Ceir rhagor o wybodaeth am gysyniad CISM, gan gynnwys cynllun y safle a manylion adeiladu eraill, ar y tudalennau gwe sy'n ymwneud â datblygu'r campws.

Rhannu'r stori