Ymateb i Coronafeirws: cyngor a gwybodaeth ddiweddaraf
Gwyddoniaeth gyfranogol yn ehangu rhestrau o isadeileddau mewnffrydiau byd-eang

Mae tîm rhyngwladol o ymgyrchwyr – gan gynnwys rhai o Brifysgol Abertawe – wedi defnyddio data a synhwyrir o bell sydd ar gael drwy beiriant Google Earth er mwyn nodi, mapio a dilysu isadeileddau mewnffrydiau megis argaeau, coredau a lociau ledled y byd. 

Mewn papur a gyhoeddir yn Earth’s Future, roedd yr isadeileddau mewnffrydiau a oedd wedi'u mapio gan y prosiect yn cynnwys coredau, lociau ac argaeau mawr a mân, yn ogystal ag argaeau rhannol – y gall pob un ohonynt amharu ar symudiad dŵr, deunyddiau, maetholion a rhywogaethau yn afonydd y byd.

Mae nodi a mapio lleoliadau isadeileddau mewnffrydiau yn ofyniad sylfaenol ar gyfer gwneud penderfyniadau ar adfer afonydd ac er mwyn nodi atebion a all fod yn fuddiol i bobl a natur.

Er bod cronfeydd data a oedd eisoes yn bodoli yn mapio lleoliadau isadeileddau mawr, ac ambell achos llai, roedd y rhain yn anghyflawn, wedi'u mapio drwy ddefnyddio dulliau amrywiol, ac roedd eu cywirdeb gofodol yn amrywio.

Yn gyntaf, gwnaeth y tîm o ymchwilwyr ac aelodau o'r cyhoedd – dan arweiniad Aaron Whitmore ym Mhrifysgol Virginia Tech – ddylunio cod pwrpasol a roddodd gyfle i gyfranogwyr yn y prosiect weld delweddau lloeren Google Earth ar eu cyfrifiaduron eu hunain.

Yna gwnaeth cyfranogwyr sgrolio ar hyd llinellau canolog afonydd a oedd wedi'u lanlwytho i Google Earth a mapio pwynt ar ben unrhyw isadeiledd a welwyd ganddynt wrth iddynt fynd rhagddynt. Gwnaethant restru pob isadeiledd a fapiwyd yn ôl saith dosbarthiad a ddiffiniwyd ar sail nodweddion gweledol a newidiadau tebyg i lif y dŵr.

O ystyried natur 2D delweddau Google Earth a bod pobl wahanol a oedd wedi cael profiadau amrywiol yn mapio isadeileddau, gwnaeth y tîm ddefnyddio nifer o fetrigau i ddilysu'r gwaith mapio mewn dau ranbarth – un yn yr Unol Daleithiau ac un yn Ffrainc.

Dangosodd y canlyniadau fod cywirdeb y cyfranogwyr i gyd rhwng 90% a 100% wrth fapio isadeileddau mewnffrydiau o gymharu eu gwaith â setiau data rhanbarthol a oedd eisoes yn bodoli yn yr Unol Daleithiau a Ffrainc. Gwnaeth y cyfranogwyr hefyd gytuno â'i gilydd 70% o'r amser ar y math o isadeiledd roeddent yn ei fapio.

Yn ogystal, cymharwyd yr isadeileddau a gafodd eu mapio gan gyfranogwyr yn y prosiect â chronfeydd data byd-eang presennol a gwelwyd eu bod yn darparu mwy o fanylder na'r hyn sydd wedi'i fapio ar hyn o bryd. Gwnaeth y cyfranogwyr fapio rhwng 13 a 15 o weithiau'n fwy o isadeileddau mewnffrydiau na'r hyn a nodwyd yn rhestrau byd-eang presennol ardaloedd yr astudiaeth yn yr Unol Daleithiau a Ffrainc.

Mae'r canfyddiadau cychwynnol hyn yn tynnu sylw at yr angen am ymagweddau systematig at fapio isadeileddau, hyd yn oed ar gyfer ardaloedd â chofnodion da megis yr Unol Daleithiau a Ffrainc.

Meddai Aaron Whitmore, a fu'n arwain y gwaith ymchwil o Brifysgol Virginia Tech: “Mae'r gwaith hwn yn gyffrous oherwydd ei fod yn llunio data newydd mewn maes lle roedd diffyg, yn ogystal â dod â gwyddonwyr ac aelodau o'r cyhoedd at ei gilydd i wneud hynny. Mae pawb ar eu hennill.”

Ychwanegodd Dr Stephanie Januchowski-Hartley, un o gyd-awduron yr astudiaeth o Brifysgol Abertawe: “Mae ein canlyniadau'n tynnu sylw at y ffaith y gallwn, drwy gydweithio ag aelodau o'r cyhoedd, wella rhestrau presennol o isadeileddau mewnffrydiau ledled y byd, a hynny'n systematig.”

Mae'r prosiect ar fin cael ei gwblhau – ar ôl mapio isadeileddau ledled y byd. Rhoddodd y broses mapio a dilysu gychwynnol gyfle i'r tîm wella eu hyfforddiant a'u dulliau o fapio isadeileddau na chânt eu cynnwys fel arfer mewn cronfeydd data byd-eang eraill. Ar ôl iddi gael ei chwblhau, bydd y gronfa ddata o rwystrau byd-eang i afonydd a luniwyd gan y tîm yn meithrin dealltwriaeth well o'r effeithiau sy'n deillio o isadeileddau mewnffrydiau ar lif hydrolegol ac o newidiadau i amrediad daearyddol ar bysgod ac adnoddau pysgodfeydd.

Rhannu'r stori