Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Buddsoddiad o £20m yn ymestyn prosiect AgorIP hyd at 2023

Mae'r Prosiect AgorIP, sydd wedi helpu economi ac arloesedd Cymru yng Ngorllewin Cymru i ffynnu dros y pedair blynedd diwethaf, wedi'i ymestyn er budd Cymru gyfan, gyda chyfanswm buddsoddiad o dros £20m. 

Mae AgorIP yn dwyn ynghyd academyddion, clinigwyr a busnesau er mwyn cynnal ymchwil arloesol i dechnolegau o'r radd flaenaf a hybu llwyddiant masnachol gyda chymorth Prifysgol Abertawe, a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Ers lansio'r Prosiect AgorIP, mae'r tîm sy'n gweithio yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, gan gynnwys Gogledd Cymru, wedi cynorthwyo mwy na 200 o gyfleoedd; wedi helpu i greu swyddi, diogelu Eiddo Deallusol (IP) a chyflwyno arloesedd i'r farchnad. Mae'r Prosiect hefyd wedi helpu cwmnïau i ehangu o Brifysgol Abertawe drwy sicrhau buddsoddiadau preifat.

O'r rhain, mae tua hanner wedi bod yn gysylltiedig â maes iechyd a lles, sy'n cyfrannu tuag at nod cyffredinol AgorIP sef gwella iechyd, lles ac economi Cymru gyfan.

Yn ogystal â gweithio gydag academyddion a busnesau, mae'r Prosiect AgorIP yn gweithio'n agos gyda GIG Cymru er mwyn dod o hyd i arloesedd yn uniongyrchol o'r GIG allai wella technolegau a meddygaeth sy'n bodoli eisoes.

Ar hyn o bryd mae gan y Prosiect dri secondai sy'n gweithio o fewn Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Betsi Cadwaladr er mwyn chwilio am y rhain ar ran AgorIP.
Mae AgorIP wedi bod o gymorth i ddod ag amrywiaeth o arloesedd i'r farchnad; gan gynnwys cynhyrchu colagen newydd, beiciau mynydd sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, arloesi gan ddod â realiti rhithwir i ystafelloedd dosbarth, bariau maeth gan ddefnyddio gwymon o ffynonellau lleol yng Ngogledd Cymru, masgiau wyneb amddiffynnol newydd mewn ymateb i'r argyfwng Covid-19, a gorchuddion metel, i enwi rhai yn unig.

Mae'r estyniad yn golygu y bydd y Prosiect yn cael ei gynnal tan fis Mehefin 2023, gyda chyllid o fwy na £15m yn cael ei neilltuo i Orllewin Cymru, a bron i £5m wedi'i neilltuo i Ddwyrain Cymru diolch i Brifysgol Abertawe, Llywodraeth Cymru a chronfeydd yr UE.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r prosiect AgorIP yn llawn enghreifftiau lle mae gwyddoniaeth a gofal iechyd yn cydweithio ar flaen y gad ym maes arloesi clinigol.

"Rwyf yn falch ein bod yn gallu parhau i gefnogi'r GIG gan weithio'n hyderus gyda phartneriaid prifysgolion a diwydiant, a thrwy gysylltu gyda thechnolegau iechyd a gwasanaethau gwell yn ogystal â mynd i'r afael â chyfleoedd ar gyfer twf economaidd yng Nghymru."

Dywedodd Ceri Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro AgorIP: "Rydym yn hynod falch o'r buddsoddiad ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ehangu AgorIP yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, a thwf ein darpariaeth i Dde-ddwyrain Cymru hefyd.

"Mae'n deyrnged i dîm gweithgar y Prosiect ym Mhrifysgol Abertawe a'r byrddau iechyd ein bod wedi sicrhau'r buddsoddiad gwell hwn, a fydd yn ein galluogi i sicrhau effeithiau ac allbynnau llawer mwy gwerthfawr er budd datblygu ymchwil prifysgolion, diwydiant a'r GIG yng Nghymru."

 

Rhannu'r stori