Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Plant yn yr ysgol: athrawon yn croesawu dychwelyd i'r ysgol, ond yn mynegi pryderon – arolwg

Wrth i ysgolion ailagor, mae arolwg o staff ysgolion cynradd yng Nghymru'n dangos eu bod yn cefnogi'r ffaith bod plant yn dychwelyd i'r dosbarth, er lles eu haddysg a'u datblygiad cymdeithasol, ond bod ganddynt bryderon gwirioneddol hefyd.

Cwblhawyd yr arolwg gan 211 o aelodau staff ledled Cymru, gan gynnwys penaethiaid, athrawon, cynorthwywyr addysgu a staff cymorth, ym mis Gorffennaf 2020.

Fe'i cynhaliwyd gan dîm HAPPEN, rhwydwaith ysgolion cynradd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sy'n dod ag addysg, iechyd ac ymchwil ynghyd.

Y canlynol yw'r casgliadau cychwynnol o ymatebion aelodau o staff i'r arolwg:

Mae angen i blant fod yn yr ysgol: roedd sawl aelod o staff o'r farn bod addysg a sgiliau cymdeithasol rhai plant wedi dirywio eisoes ym mis Gorffennaf.
Mae pryder am effaith dychwelyd ar eu hiechyd eu hunain, yn enwedig os oedd yr aelodau o staff yn y grŵp a warchodwyd o'r blaen.
Roedd pryderon am les disgyblion a'r ffordd orau o gefnogi plant unigol, yn enwedig y rhai nad oes ganddynt awydd dysgu.
Mae pryderon hefyd am les athrawon, o orbryder ynghylch trosglwyddo'r feirws, prinder staff posib o ganlyniad i salwch/hunanynysu, a mynd i'r gwaith gan fod opsiynau clybiau brecwast/ar ôl ysgol neu ofal plant i'w plant eu hunain yn gyfyngedig.

Roedd argymhellion gan aelodau o staff ar gyfer symud ymlaen hefyd:

Gwnaeth athrawon sylwadau ar fanteision dosbarthiadau llai a roddodd gyfle iddynt gefnogi plant unigol yn well ym mis Gorffennaf.
Y farn oedd y byddai buddsoddi mewn mwy o staff yn hwyluso dosbarthiadau llai, yn atgyfnerthu dysgu, ac yn gwella lles disgyblion ac aelodau o staff.
Mwy o gefnogaeth i les disgyblion ac aelodau o staff: pan ofynnwyd am y gefnogaeth roedd ei hangen arnynt, “cefnogi iechyd a lles dysgwyr” oedd yr ymateb mwyaf cyffredin.
Cyfarwyddyd a chyfathrebu clir ar bob lefel: dyma argymhelliad allweddol, mewn perthynas â sefyllfa'r feirws ar hyn o bryd, yn ogystal ag unrhyw gyfyngiadau symud yn y dyfodol.

Darllenwch yr arolwg

Meddai'r Athro Sinead Brophy o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth:

“Dangosodd ein harolwg fod angen gwybodaeth glir ar staff ysgol mewn pryd iddynt weithredu. Mae ganddynt bryderon gwirioneddol am iechyd a lles, o ran yr aelodau o staff eu hunain a'u disgyblion.”

Meddai Charlotte Todd, Arweinydd Lles y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth:

“Daw blaenoriaethau clir ar gyfer y ffordd ymlaen hefyd o'r arolwg, gan gynnwys mwy o fuddsoddiad yn lles athrawon a disgyblion, a chyfarwyddyd a chyfathrebu cliriach ar bob lefel.”

Cyhoeddir canlyniadau eraill o'r arolwg cyn bo hir.

 

Rhannu'r stori