Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Myfyrwyr yn eistedd y tu allan i Dy Fulton

Bydd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n elwa o hwb ariannol i gynnal rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer myfyrwyr newydd a rhai sy'n dychwelyd rhwng mis Medi 2020 a mis Chwefror 2021.

Bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn targedu cyllid gwerth £230,000 i gyflwyno cyfres o weithgareddau lles a chymdeithasol ar-lein ac ar gampws a fydd yn dilyn y cyfarwyddyd diweddaraf ynghylch cadw pellter cymdeithasol ac yn cwmpasu'r cyfnod cyrraedd a chroeso estynedig, yn ogystal â'r broses o dderbyn myfyrwyr ym mis Ionawr.

Er mwyn cynnal y digwyddiadau mewn amgylchedd diogel, cyflwynir adeileddau awyr agored dros dro ar ddau gampws y brifysgol a fydd yn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys:

  • Ffair y Glasfyfyrwyr
  • Nosweithiau cwis
  • Sinema awyr agored
  • Marchnadoedd bwyd (gan gynnwys bwyd figanaidd)
  • Nosweithiau cyrfau crefft

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau lles eraill, megis: gweithdai ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, boreau coffi cwrdd a chyfarch, ffeiriau diwylliant a sesiynau ioga a myfyrio rheolaidd.

Meddai'r Athro Martin Stringer, dirprwy is-ganghellor addysg a phrofiad myfyrwyr: “Mae Prifysgol Abertawe yn y chweched safle yn y DU am foddhad myfyrwyr ac rydym yn adnabyddus am gynnig profiad eithriadol i'n myfyrwyr i gyd. Er gwaethaf yr heriau sy'n deillio o gyfyngiadau Covid-19, rydym yn ymrwymedig i sicrhau y gall myfyrwyr newydd a rhai sy'n dychwelyd fwynhau eu hunain a chymdeithasu mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.

“Bydd cymryd rhan yn yr amrywiaeth eang o ddigwyddiadau cymdeithasol rydym wedi eu cynllunio yn ffordd wych i fyfyrwyr gwrdd â phobl newydd a mwynhau eu hamser yn y brifysgol, er mwyn hyrwyddo ymdeimlad cadarnhaol o les a sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng astudio a chymdeithasu. Mae'r rhain i gyd yn bwysig wrth reoli teimladau ynysig sy'n gyffredin pan fydd rhywun yn dechrau profiad newydd, yn enwedig yn ystod cyfnod o ansicrwydd.”

Er mwyn mynd i ddigwyddiadau, bydd yn rhaid i fyfyrwyr gadw lle ymlaen llaw, a chaiff tymheredd pobl ei fesur. Ni chaiff unrhyw un â thymheredd uchel fynediad. Bydd hyn yn sicrhau bod y digwyddiadau'n cydymffurfio â deddfwriaeth bresennol Llywodraeth Cymru, a bydd ein dull archebu ar-lein hefyd yn cynorthwyo cynllun Profi, Olrhain, Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Caiff rhagor o fanylion eu rhyddhau maes o law. 

Meddai Ffion Davies, llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: Roedd fy mhrofiad fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe'n llawn atgofion annwyl a bythgofiadwy, felly rwy'n falch iawn, ar yr adeg ansicr hon, fod Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol yn deall pwysigrwydd creu amgylchedd lle mae myfyrwyr yn gallu cymdeithasu'n ddiogel a chreu eu hatgofion eu hunain.

“Mae Undeb y Myfyrwyr yn falch y gallwn gyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Mae diogelwch ein myfyrwyr, ein staff a phreswylwyr lleol yn hollbwysig a thrwy ddod â myfyrwyr i gampws gallwn sicrhau y cynhelir digwyddiadau mewn modd diogel, yn unol â chanllawiau'r llywodraeth. Bydd y digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr mewn swigod llety ddod i adnabod ei gilydd mewn man diogel wrth iddynt fynd ati i greu eu profiad arbennig eu hunain yn y brifysgol.”

Rhannu'r stori