Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Arbenigwyr y Brifysgol wrth wraidd ymchwil i glefydau pandemig

Mae pedwar academydd o Brifysgol Abertawe'n rhan o brosiect ymchwil mawr newydd sy'n ymchwilio i Covid-19 a'r hyn y gall ein dysgu am ymdopi â chlefydau pandemig yn y dyfodol. 

Mae Athro Biagio Lucini, o'rAdran Mathemateg, Mike Gravenor, Athro Epidemioleg a Bioystadegau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ac uwch-beirianwyr meddalwedd ymchwil Uwchgyfrifiadura Cymru Dr Mark Dawson a Dr Ed Bennett yn rhan o brosiect sy'n ceisio creu llwyfan agored ar gyfer modelu clefydau pandemig.

Mae dulliau mathemategol o fodelu'r ffordd y trosglwyddir clefydau heintus yn adnoddau pwysig wrth ragweld tueddiadau clefydau pandemig y dyfodol. Fodd bynnag, mae modelau gwahanol yn tueddu i gyflwyno canlyniadau gwahanol.

Meddai'r Athro Lucini: “Er mwyn defnyddio modelu i gyrraedd casgliadau cadarnhaol, mae'n bwysig ystyried sawl model, a gellir hwyluso hynny drwy ehangu'r gymuned fodelu – gan fod modelau'n tueddu i adlewyrchu'r bobl sy'n eu datblygu – a thrwy ddod â modelau a datblygwyr at ei gilydd i gymharu a chyferbynnu eu canfyddiadau.”

Mae'r prosiect am rymuso modelwyr y genhedlaeth nesaf yn ogystal â gweithredu fel man deori ar gyfer llwyfan i gymharu modelau clefydau heintus, o ran cyfrifiaduron a phobl.

Meddai'r Athro Gravenor: “Rydym yn gobeithio y bydd y cydweithrediad yn galluogi penderfyniadau polisi cyflym a chadarnach i gael eu gwneud ar y pandemig presennol a chlefydau pandemig y dyfodol.”

Dyma un o naw astudiaeth sy'n ymchwilio i baratoadau i ymdrin â chlefydau pandemig a lansiwyd gan Microsoft. Bydd yr astudiaethau'n dod ag arbenigedd at ei gilydd er mwyn archwilio pynciau megis atal a rheoli heintiau, triniaethau a diagnosteg, iechyd meddwl, a dychwelyd i'r gwaith.

Bydd y cydweithrediadau hyn, sy'n cynnwys academyddion blaenllaw o bedwar ban byd, yn astudio'r materion allweddol angenrheidiol i ddeall y pandemig presennol, ac ymateb iddo, yn ogystal â pharatoi'n well ar gyfer y dyfodol.

Meddai Prif Swyddog Gwyddonol Microsoft, Eric Horvitz: “Dod â phobl sydd ag arbenigedd, creadigedd a brwdfrydedd at ei gilydd yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â heriau anodd Covid-19. Bydd ein hymdrechion heddiw hefyd yn hybu ein gallu i ddatgelu a lliniaru clefydau pandemig y dyfodol. Mae'r cydweithrediadau hyn yn hanfodol a byddant yn arwain at ddarganfyddiadau hollbwysig.”

Rhannu'r stori