Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Matthew Lillywhite

Enillodd dyluniad y myfyriwr peirianneg awyrofod Matthew y wobr gwerth £5,000 yn y gystadleuaeth Engineering for Access.

Profiad personol myfyriwr o Brifysgol Abertawe oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei gynnig buddugol mewn cystadleuaeth ledled y wlad i ddod o hyd i'r cynnyrch mwyaf arloesol ar gyfer pobl anabl.

Cyflwynodd Matthew Lillywhite, sy'n astudio peirianneg awyrofod, ei ddyluniad ar gyfer metronom arbennig i'r gystadleuaeth Engineering for Access ac mae bellach wedi ennill £5,000 tuag at greu prototeip i wireddu ei syniad.

Byddai'r metronom cyffyrddiadol yn helpu pobl sydd â chlefyd Parkinson i gadw rhythm wrth gerdded.

Mae therapyddion yn defnyddio cerddoriaeth gan fod llawer o bobl sydd â chlefyd Parkinson yn canfod bod gwrando ar gerddoriaeth â rhythm cryf yn gallu eu helpu i gerdded yn well, eu hatal rhag oedi a goresgyn achosion o rewi. Mae Matthew wedi gweld y cyflwr hwn o lygad y ffynnon yn ei deulu ei hun.

“Mae fy nhad a'm tad-cu'n dioddef o glefyd Parkinson, felly roeddwn am ddylunio rhywbeth a fyddai'n helpu'r bobl hyn sy'n annwyl i mi.

“Mae'r syniad am y dyluniad yn deillio o'm tad. Mae fy rhieni'n hoffi mynd am dro ac ar grwydr gyda'i gilydd ac nid yw'n bosib i Dad wrando ar y gerddoriaeth ymdeithio a allai ei helpu i gadw amser wrth gerdded. Felly, ymdrechais i feddwl am ffordd o'i alluogi i gael yr un budd.”

Nid Matthew oedd yr unig fyfyriwr o Abertawe a aeth yn bell yn y gystadleuaeth. Cyrhaeddodd y myfyriwr peirianneg israddedig Zachary West y rhestr fer hefyd am ddylunio dyfais sy'n helpu pobl i ddysgu braille.

Creodd Zachary ei ddyluniad ar ôl siarad â chwsmer dall wrth weithio mewn caffi lleol.

“Dechreuais feddwl bod colli eich golwg yn brofiad ynysig. Mae llawer o bobl â nam ar eu golwg na allant ddarllen braille gan y gall fod yn anodd ei ddysgu,” meddai.

Gosododd y wobr flynyddol, a gynhelir gan yr arbenigwyr anafiadau personol Claims.co.uk a'r arbenigwyr arloesi cynhyrchion Bang Creations, y dasg o greu cynnyrch a fyddai'n cynorthwyo pobl sy'n byw ag anabledd i beirianwyr israddedig o bob rhan o'r DU. Roedd myfyrwyr yn gallu dewis yr anabledd roeddent am greu dyluniad ar ei gyfer, ac aeth cynigion eraill i'r afael ag epilepsi a byddardod.

Rhannu'r stori