Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Rhyfeddu at y ffordd mae crwbanod y môr yn dod o hyd i ynysoedd bach, anghysbell

Mae astudiaeth arloesol gan wyddonwyr wedi ateb un o hen gwestiynau Charles Darwin ynghylch sut mae crwbanod yn dod o hyd i ynysoedd. 

Gwnaeth tîm o Brifysgol Deakin, Prifysgol Pisa a Phrifysgol Abertawe roi tagiau lloeren ar 33 o grwbanod gwyrdd a chofnodi eu trywydd unigryw wrth iddynt fudo'n bell yng Nghefnfor yr India i ynysoedd cefnforol bach.

Mae tystiolaeth yr astudiaeth ymysg yr orau a ddarparwyd hyd yn hyn o allu crwbanod y môr i ailgyfeirio yn y cefnfor agored, ond dim ond ar lefel syml yn hytrach nag i raddau manwl.

Teithiodd saith crwban ddegau o gilometrau'n unig i safleoedd chwilota ar Gylchynys Fawr Chagos, teithiodd chwech ohonynt dros 4,000km i dir mawr Affrica, un i Fadagasgar, ac aeth dau grwban arall tua'r gogledd i'r Maldives.

Aeth y rhan fwyaf (17) o'r rhywogaethau a gafodd eu holrhain tua'r gorllewin i safleoedd chwilota pell yng Nghefnfor Gorllewinol yr India a oedd yn gysylltiedig ag ynysoedd bach.

Mae'n dangos y gall y crwbanod deithio gannoedd o gilometrau oddi ar y llwybrau uniongyrchol er mwyn cyrraedd eu cyrchfan cyn ailgyfeirio, yn aml yn y cefnfor agored.

Ym 1873, roedd gallu crwbanod y môr i ddod o hyd i ynysoedd anghysbell i nythu ynddynt yn destun rhyfeddod i Charles Darwin. Fodd bynnag, mae'r manylion ynghylch sut mae crwbanod y môr, a grwpiau eraill megis morloi a morfilod, yn dod o hyd i'r ffordd yn ystod mudiadau hir yn gwestiwn penagored o hyd.

Mae'n anodd defnyddio unigolion annibynnol i ateb y cwestiwn hwn gan fod miloedd o grwbanod y môr yn cael eu holrhain i lannau tiroedd mawr lle mae'n haws dod o hyd i'r ffordd.

Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod crwbanod yn aml yn cael trafferthion wrth ddod o hyd i ynysoedd bach, gan fynd yn rhy bell a/neu chwilio am yr ynys yn ystod y camau mudo olaf.

Mae canlyniadau'r broses o'u holrhain drwy loeren yn ategu'r awgrym, sy'n deillio o waith blaenorol mewn labordai, fod crwbanod yn defnyddio tirnodau fel system syml o ddod o hyd i'r ffordd yn y cefnfor agored, gan ddefnyddio maes geomagnetig y byd o bosib.

Meddai Dr Nicole Esteban o Brifysgol Abertawe, un o gyd-awduron yr astudiaeth: “Cawsom ein synnu pan aeth crwbanod gwyrdd gannoedd o gilometrau y tu hwnt i'w cyrchfan weithiau cyn chwilio'r cefnfor amdano. Mae ein hymchwil yn dangos tystiolaeth bod gan grwbanod synnwyr mapio syml sy'n eu hailgyfeirio yn y cefnfor agored.”

Rhannu'r stori