Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Myfyrwyr ar Gampws y Bae

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y chweched safle am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2020.

Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw (15 Gorffennaf) yn datgelu bod 89 y cant o fyfyrwyr Abertawe'n dweud eu bod yn fodlon ar eu cwrs yn gyffredinol. Y cyfartaledd cenedlaethol yw 83 y cant. Mae hyn yn golygu bod Abertawe'n chweched yn y DU (yn seiliedig ar y rhestr o 131 o sefydliadau sy’n ymddangos yn y Times Good University Guide) – pedwar safle'n uwch nag yn 2019.

Mae'r NSS yn arolwg cynhwysfawr o farn myfyrwyr ledled y DU a gynhelir yn annibynnol ac yn ddienw gan Ipsos-MORI. Gofynnir i fyfyrwyr am eu sylwadau ynghylch meysydd megis addysgu, asesu ac adborth, cymorth academaidd, y ffordd y mae eu cwrs wedi'i drefnu a'i reoli, adnoddau dysgu, Llais y Myfyrwyr a'u Hundeb Myfyrwyr.

Roedd NSS eleni'n agored i fyfyrwyr o 6 Ionawr 2020 i 30 Ebrill 2020 – gan orgyffwrdd â'r argyfwng coronafeirws a chyfyngiadau symud y DU.

Cwblhaodd 3,097 o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yr arolwg eleni, sef 72 y cant o'r holl fyfyrwyr a oedd yn gymwys yn Abertawe.

Mae'r Brifysgol yn y 10 uchaf am foddhad cyffredinol mewn 24 o’r 54 o bynciau sy’n berthnasol iddi.

Roedd y pynciau penodol canlynol ymysg y 10 uchaf:

Astudiaethau Cymraeg (1af), Biobeirianneg, Peirianneg Feddygol a Biofeddygol (2il), Meddygaeth Gyflenwol ac Amgen (2il), Geneteg (2il), Nyrsio Plant (4ydd), Gwyddor Gofal Iechyd (amhenodol) (3ydd), Astudiaethau Iberaidd (4ydd), Technoleg Deunyddiau (4ydd), Technoleg Feddygol (4ydd), Peirianneg Meddalwedd (4ydd), Astudiaethau Americanaidd ac Awstralasiaidd (5ed), Bioleg (amhenodol) (5ed), Cymdeithaseg (5ed), Swoleg (5ed), Peirianneg Awyrenneg ac Awyrofod (6ed), y Clasuron (6ed), Cyfrifiadureg (6ed), Economeg (6ed), Daearyddiaeth Ddynol (6ed), Astudiaethau’r Cyfryngau (6ed), Bydwreigiaeth (7fed), Archaeoleg (8fed), Astudiaethau Almaeneg a Sgandinafaidd (8fed), y Gyfraith (10fed).

Meddai'r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Addysg Prifysgol Abertawe: “Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn ym Mhrifysgol Abertawe, felly rwy'n falch o weld bod canlyniadau ardderchog NSS eleni'n adlewyrchu hynny.

“Hoffwn ddiolch i bawb ym mhob rhan o'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr sy'n gweithio'n ddiflino er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr i gyd yn manteisio i'r eithaf ar eu cyfnod yma yn Abertawe. Mae ein llwyddiant parhaus yn yr arolwg yn dangos eu hymroddiad a'u hymrwymiad i wella profiad myfyrwyr, gan ein helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf, ymchwil o safon ryngwladol a phrofiad eithriadol i fyfyrwyr.

“Yn ddiau, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i'n staff a'n myfyrwyr, ac ar ran y Brifysgol, hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu cefnogaeth barhaus.”

Rhannu'r stori