Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Adeiladau Actif.

Yn 2011, Roedd SPECIFIC yn un o chwe Chanolfan Arloesi a Gwybodaeth yn y DU a grëwyd gan Lywodraeth y DU.

Naw mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl llu o brosiectau ac achosion o gydweithredu, mae SPECIFIC yn dathlu dwy flynedd arall o ariannu strwythurol gan yr UE drwy Lywodraeth Cymru sy'n werth £6m. Bydd y cyllid yn galluogi SPECIFIC i barhau i weithio i helpu cwmnïau yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd tan fis Mawrth 2023.

Yn ôl yn 2016, cafodd SPECIFIC gyllid gwerth £15m gan yr UE i helpu cwmnïau yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd a allai elwa ar ein harbenigedd mewn ynni solar, gwyddor deunyddiau, a systemau a thechnolegau ynni carbon isel ar gyfer adeiladau. 

Gyda'r cyllid hwn a £5m arall gan UKRI (EPSRC ac Innovate UK), mae'r ganolfan wedi pontio'r bwlch yn llwyddiannus rhwng diwydiant a'r byd academaidd drwy gysylltu timau ymchwil o'r radd flaenaf â busnesau yng Nghymru, y DU a'r tu hwnt.

Drwy ymwneud yn rhagweithiol â SPECIFIC, gall sefydliadau ddatrys eu problemau yn y byd go iawn drwy ddatblygu mentrau arloesol a chynhyrchion newydd yn unol â gwaith SPECIFIC ei hun i ddatblygu technolegau ar gyfer ‘Adeiladau Ynni Gweithredol’ a all gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni adnewyddadwy eu hunain.

Ers 2016, mae SPECIFIC wedi helpu mwy na 70 o gwmnïau yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd mewn llawer o ffyrdd amrywiol (gan gynnwys, er enghraifft, drwy helpu cwmnïau i wella eu defnydd o ynni adnewyddadwy, cipio gwres gwastraff a monitro perfformiad ynni adeiladau). Hyd yn hyn, mae'r prosiect wedi denu buddsoddiad preifat gwerth £5.3m i gefnogi busnesau bach a chanolig sy'n cydweithredu.

Mae SPECIFIC hefyd wedi llwyddo i wella cyfleusterau'r ganolfan yn sylweddol drwy ennill rhaglenni ymchwil a datblygu cystadleuol eraill yn y DU. Mae'r rhain yn cynnwys cyfarpar dadansoddol arbenigol newydd gwerth £2m ac ystafell lân gwerth £500k, cyfleusterau cynhyrchu prawf, ac arddangosydd adeilad cyflawn yn Arddangosydd Ynni Gwres Solar y ganolfan, yn ogystal ag adeiladau blaenllaw ac arobryn yr Ystafell Ddosbarth Ynni Gweithredol a'r Swyddfa Ynni Gweithredol ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe. Mae'r cyfleusterau hyn yn rhoi'r ganolfan ar flaen y gad yn fyd-eang, ac maent wedi darparu rhagor o gyfleoedd i sefydliadau, gan gynnwys cwmnïau yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, gydweithredu â'r prosiect.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles, “Mae SPECIFIC wedi bod yn bartneriaid gwerthfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan sbarduno arloesedd mewn systemau ynni gwyrdd a chefnogi busnesau yn eu hardal yn ogystal ag arddangos yr amrywiaeth o fuddion y mae Cymru'n eu cael drwy ein dyraniad wedi’i dargedu o gyllid o raglenni'r UE. Rwyf wrth fy modd bod eu hymchwil arobryn yn gallu parhau a bod eu harbenigedd yn cael ei rannu gyda phartneriaid yng Nghymru a ledled y byd.” 

Meddai Cyfarwyddwr Ymgysylltu Masnachol SPECIFIC, Dr Christian Bryant: “Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ymddiried ynom drwy ddyfarnu'r cyllid gwerth £6m gan yr UE. Bydd yn ein galluogi i gyrraedd rhagor o gwmnïau yn rhanbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd drwy ymestyn y rhaglenni arddangos adeilad, technoleg ac ymchwil datblygedig rydym yn eu cynnig. Bydd yn rhoi cyfle i gwmnïau feithrin partneriaethau newydd a datblygu mentrau arloesol, gan hybu datblygiad economaidd a chreu swyddi yn unol ag agenda ddatgarboneiddio Cymru a'r DU.”

Mae SPECIFIC hefyd yn ased allweddol i Brifysgol Abertawe. Mae'n gweithredu fel canolbwynt i academyddion, ymchwilwyr, a gweithwyr proffesiynol ym meysydd trosglwyddo technoleg a datblygu busnes, ac yn creu cysylltiadau â rhaglenni datblygu dur, deunyddiau ac ynni perthynol a fydd o fudd i ranbarth Bae Abertawe, Cymru a'r DU ymhell y tu hwnt i'r estyniad hwn.

Bydd y cyllid hwn hefyd yn helpu SPECIFIC i wireddu ei gweledigaeth hirdymor gyffrous ar gyfer Adeiladau Ynni Gweithredol ac i gyfrannu at economi werdd y Brifysgol, Cymru a'r DU yn y dyfodol.

Rhannu'r stori