Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae Dr Chris Pak wedi ennill Gwobr Jacob Bronowski, sy’n wobr urddasol, am ei waith

Mae Dr Chris Pak wedi ennill Gwobr Jacob Bronowski, sy’n wobr urddasol, am ei waith

Mae darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill y wobr urddasol, sef Gwobr Jacob Bronowski ar gyfer Gwyddoniaeth a’r Celfyddydau gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain.  

Cafodd Dr Chris Pak, sy’n darlithio yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, gydnabyddiaeth am ei ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a’i waith ymchwil ar ffuglen wyddonol, gwyddoniaeth a llenyddiaeth.


Mae’r wobr yn un o saith yn unig sy’n cael ei dyfarnu i ysgolheigion yn y dyniaethau. Mae’r gweddill yn mynd i ysgolheigion mewn gwyddorau amrywiol. Mae gwobr Jacob Bronowski ar gyfer y gwyddorau a’r celfyddydau, ond mae’r gweddill ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol, peirianneg, technoleg a’r gwyddorau diwydiannol ac amgylcheddol.

Mae ei lyfr, Terraforming, yn archwilio agweddau gwyddonol, cymdeithasol a gwleidyddol ar addasiad amgylcheddau planedol a sut y gall y motif hwn o fyd ffuglen wyddonol ein helpu i feddwl am newid yn yr hinsawdd ar y Ddaear.

Mae Dr Pak wedi parhau i ysgrifennu am y croestoriadau rhwng gwyddoniaeth a llenyddiaeth, ac mae wedi ehangu ei archwiliad o ddaearffurfio mewn ffuglen wyddonol yr 21ain. Mae hefyd wedi ysgrifennu am y berthynas rhwng pobl ac anifeiliaid mewn ffuglen wyddonol.

Caiff y wobr ei chyflwyno iddo yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain 2021, sydd bellach wedi cael ei gohirio tan fis Medi.

Dywedodd Dr Pak:

“Rwyf wrth fy modd i dderbyn y wobr hon am fy ngwaith ar ffuglen wyddonol, gwyddoniaeth a llenyddiaeth, ac edrychaf ymlaen at ddarlith wobrwyo 2021 lle byddaf yn turio i’r berthynas rhwng y tri ohonynt mewn mwy o fanylder.”

Nod y ddarlith wobrwyo yw hyrwyddo trafodaeth agored a gwybodus am faterion sy’n ymwneud â gwyddoniaeth ac annog ysgolheigion y celfyddydau’n rhagweithiol i ymchwilio i agweddau cymdeithasol ar wyddoniaeth.

Mae Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain wedi bod yn gwobrwyo gwyddonwyr addawol sy’n gynnar yn eu gyrfaoedd am fwy nag 20 mlynedd, ac mae enillwyr blaenorol wedi cynnwys Brian Cox, Richard Wiseman a Maggie Aderin-Pocock.

Rhannu'r stori