Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Celloedd solar newydd: hyblyg, ysgafn, yn rhad i'w cynhyrchu, a gellir eu hargraffu'n uniongyrchol ar gynhyrchion .

Celloedd solar newydd:  hyblyg, ysgafn, yn rhad i'w cynhyrchu, a gellir eu hargraffu'n uniongyrchol ar gynhyrchion.

Bydd grant gwerth £6 miliwn yn ysgogi'r broses o ddefnyddio technoleg solar y genhedlaeth nesaf mewn ffyrdd newydd.

Mae'r grant yn dod â thri grŵp ymchwil o fri rhyngwladol o Brifysgol Abertawe, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Rhydychen at ei gilydd i ddatblygu defnyddiau o gelloedd solar perofsgit ac organig nad yw technolegau solar presennol yn addas ar eu cyfer.

Mae defnyddiau ffotofoltäig y genhedlaeth nesaf fel y rhain yn argoeli'n dda: mae eu perfformiad yn gallu cystadlu â thechnoleg gyfredol, ond maent yn cynnig y fantais o fod yn hyblyg, yn ysgafn, yn rhad i'w cynhyrchu, a gellir eu hargraffu'n uniongyrchol ar gynhyrchion wrth iddynt gael eu gweithgynhyrchu.

Oherwydd y priodoleddau hyn, maent yn addas ar gyfer defnyddiau newydd a fydd yn hollbwysig i ddatblygiadau megis:

5G, sy'n defnyddio ffynonellau ynni hynod ysgafn ar gyfer lloerennau ffug a cherbydau awyr di-griw sy'n gweithredu ar uchder
Y Rhyngrwyd Pethau, y mae synwyryddion a dyfeisiau cyfrifiadurol yn cael eu gosod yn gynyddol ar eu cyfer mewn eitemau pob dydd;
Adeiladau a cherbydau di-garbon, a allai ddefnyddio eu toeon, eu waliau a'u ffenestri er mwyn cynhyrchu ynni.

Grant Rhaglen gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) ydyw. Bydd y tîm yn ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

• Cyflwyno gwyddoniaeth a pheirianneg sylfaenol er mwyn ategu'r broses o ddatblygu'r technolegau solar addawol hyn;
• Datblygu dulliau gweithgynhyrchu carbon isel, rhad a fydd yn golygu y gellir eu cynhyrchu ar y raddfa briodol;
• Datblygu prototeipiau i ddangos sut gallant ddefnyddio ynni solar mewn ffyrdd newydd.

Enw'r rhaglen ymchwil yw Defnyddiau Ffotofoltäig Penodol ac Integredig (ATIP).

Fe'i harweinir gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chanolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM) newydd y Brifysgol, CPE (Centre for Processable Electronics) yng Ngholeg Imperial Llundain, ac Adran Ffiseg Prifysgol Rhydychen.

Mae hefyd yn cynnwys 12 o bartneriaid allweddol yn y diwydiant o rannau gwahanol o'r gadwyn gyflenwi, sy'n deall gofynion technegol ac ariannol cyflwyno cynhyrchion newydd ar y farchnad.

Bydd yr Athro James Durrant FRS o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC yn arwain y rhaglen.

Meddai'r Athro James Durrant:

“Mae'r ffaith bod EPSRC wedi dewis dyfarnu'r Grant Rhaglen hwn yn dangos arbenigedd ein tîm a chryfder y DU yn y maes hwn. Gyda'r tair canolfan flaenllaw hyn yn cydweithio, byddwn yn gallu cyflwyno technolegau solar y genhedlaeth nesaf o'r labordy i'r byd go iawn yn gyflymach, er lles y DU a gweddill y byd.”

Mae'r prosiect hefyd wedi cael ei gefnogi gan gymuned ymchwil solar y DU.

Meddai'r Athro Michael Walls o Brifysgol Loughborough, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Solar Supergen EPSRC:

“Mae'r trydan sy'n cael ei gynhyrchu gan fodiwlau solar bellach yn rhan bwysig o gymysgedd ynni'r byd. Mae twf parhaus y defnydd hwn yn allweddol i ymrwymiad y DU i gynhyrchu allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Mae ymchwilwyr yn y DU wedi arloesi technoleg solar newydd a hynod effeithlon sy'n seiliedig ar gemeg perofsgit. Bydd y prosiect. Defnyddiau Ffotofoltäig Penodol ac Integredig’ newydd a ariennir gan EPSRC yn sicrhau bod y dechnoleg gyffrous hon yn agosach at fod yn barod i'w rhoi ar waith.”

Meddai Cadeirydd Gweithredol EPSRC, yr Athro a'r Fonesig Lynn Gladden:

“Mae'r prosiect amlddisgyblaethol cyffrous hwn yn cynnig newid mawr yn y ffordd y defnyddir ynni solar a bydd yn helpu'r DU i leihau allyriadau a datblygu economi ddi-garbon sy'n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd. Mae natur amlbwrpas a rhad y dechnoleg hon sy'n dod i'r amlwg hefyd yn dangos sut bydd technolegau cynaliadwy arloesol yn ein helpu i wella'r ffordd rydym yn cyfathrebu drwy 5G a'r Rhyngrwyd Pethau.”

Meddai Gweinidog Gwyddoniaeth Llywodraeth y DU, Amanda Solloway:

“Bydd y cyllid hwn yn galluogi ein hymchwilwyr penigamp o rai o'n prifysgolion mwyaf blaenllaw i greu technolegau solar y genhedlaeth nesaf. “Mae gan y technolegau arloesol hyn y potensial i bweru cerbydau allyriadau sero, hybu ein rhwydwaith telegyfathrebu a darparu ynni glân ar gyfer llawer o'r dyfeisiau rydym yn dibynnu arnynt bob dydd. Bydd y cyfan yn hanfodol er mwyn creu dyfodol gwyrddach a sicrhau allyriadau sero-net erbyn 2050.”

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

“Gyda'r buddsoddiad hwn sy'n werth £6 miliwn, mae Llywodraeth y DU yn cefnogi rhai o wyddonwyr ac ymchwilwyr gorau de Cymru wrth iddynt weithio i ddatblygu technolegau solar y genhedlaeth nesaf. “Bydd cyllid Llywodraeth y DU yn cyflymu'r broses o ddatblygu'r dechnoleg solar ysgafn newydd hon, gan greu manteision i ddefnyddwyr ledled y byd a'n helpu i gyrraedd ein targed o allyriadau sero-net erbyn 2050.”

Rhannu'r stori