Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Simon Cardozo ar ddyletswydd yn Ysbyty Coleg y Brenin.

Simon Cardozo ar ddyletswydd yn Ysbyty Coleg y Brenin. 

Mae un o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe'n chwarae rôl allweddol wrth reoli'r cyflenwad o gyfarpar diogelu personol yn un o'r ysbytai sydd wedi dioddef fwyaf o ganlyniad i'r pandemig.

Mae Simon Cardozo, myfyriwr blwyddyn gyntaf sydd wedi cofrestru ar y cwrs gradd yn y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, bellach yn Gydlynydd Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer Covid-19 gyda KFM, sy'n is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Coleg y Brenin yn ne-ddwyrain Llundain.

Roedd Simon, sy'n 19 oed, wedi gweithio yn yr ysbyty o'r blaen yn ystod ei wyliau er mwyn ennill arian a chael profiad cyn cael cynnig y rôl hon yn cefnogi'r tîm cadwyn gyflenwi yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Meddai Simon, sy'n dod o dde Llundain: “Rwy'n cefnogi tîm o bobl weithgar sy'n dosbarthu cyfarpar diogelu personol i bob ward yn yr ysbyty.

“Rwy'n helpu i ddyrannu a rheoli lefel y cyflenwad o gyfarpar diogelu personol ac mae'n rhaid i mi gofnodi'r swm y mae'r ysbyty'n ei dderbyn a'r eitemau a ddosberthir i wardiau unigol.”

Drwy'r rôl hon mae Simon yn helpu i ddarparu cyfarpar diogelu personol i'r staff clinigol.

“Mae'n glodwiw gweld sut mae'r staff clinigol wedi gorfod addasu a newid eu ffyrdd o weithio, er mwyn sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn cael eu dosbarthu'n gyflym ac yn effeithlon i wardiau, yn ogystal ag ymdrin â'r cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn.”

Mae Simon wedi llenwi'r rôl ers dychwelyd i Lundain o Abertawe ac mae wedi bod yn dyst i gefnogaeth anhygoel y cyhoedd ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol.

“Mae gweld cwmnïau lleol yn rhoi cyfarpar diogelu personol ac eitemau eraill, yn ogystal â'r cyfraniadau o bob cwr o'r DU ac yn rhyngwladol, wedi bod yn emosiynol i mi a'm cydweithwyr.”

Meddai Adam Broad, Cyfarwyddwr Cadwyn Gyflenwi KFM: “Mae Simon wedi rhoi cefnogaeth a chymorth amhrisiadwy i'r tîm drwy gydol y cyfnod heriol iawn hwn. Hoffai'r tîm a minnau ddiolch iddo am ei holl waith caled dros y misoedd diwethaf.”

Yn ôl Simon, sy'n bwriadu aros yn Abertawe er mwyn ymuno â'r cwrs Meddygaeth i Raddedigion ar ôl cwblhau ei radd, mae ei brofiad yn Ysbyty Coleg y Brenin wedi newid ei fywyd.

“Mae sefyllfa Covid-19 yn fy helpu i ddysgu sut mae ysbyty'n ymateb i argyfwng, yn ogystal â phwysigrwydd gweithio mewn tîm a bod yn drefnus mewn argyfwng.”

Meddai'r Athro Lisa Wallace, cyfarwyddwr rhaglen y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol: “Rydym yn falch iawn o'r cyfraniadau y mae Simon a llawer o fyfyrwyr yr Ysgol Feddygaeth yn eu gwneud at y frwydr yn erbyn Covid-19.

“Maent yn destun balchder i'r Ysgol Feddygaeth yn ogystal â Phrifysgol Abertawe. Rydym yn edrych ymlaen at eu gweld wyneb yn wyneb mewn darlithoedd cyn gynted ag y bo modd.”

Rhannu'r stori