Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Myfyrwraig PhD yn ennill rownd derfynol cystadleuaeth 3MT Prifysgol Abertawe

Mae myfyrwraig PhD o Brifysgol Abertawe wedi ennill rownd derfynol Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe. 

Roedd Manuela Pacciarini, sy'n astudio PhD mewn Astudiaethau Meddygaeth a Gofal Iechyd, yn drech na 23 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eraill o saith coleg.

Yn ei sgwrs, trafododd Manuela ddarganfod bioddangosyddion lipid mewn clefydau niwroddirywiol ac ymchwil i'r posibilrwydd o ddatblygu prawf gwaed a allai ddangos clefyd Parkinson a chlefyd Alzheimer.

Wedi'i sefydlu gan Brifysgol Queensland yn 2008, mae 3MT yn gystadleuaeth ryngwladol a gynhelir mewn mwy na 200 o brifysgolion ledled y byd. Mae'n agored i fyfyrwyr PhD ac mae'n herio cyfranogwyr i gyflwyno eu gwaith ymchwil mewn tair munud yn unig, ar ffurf un sleid PowerPoint sefydlog sy'n ddealladwy i gynulleidfa ddeallus ond heb unrhyw gefndir yn y maes ymchwil.

Mae Prifysgol Abertawe'n un o oddeutu 70 o sefydliadau yn y DU sydd bellach yn rhan o rwydwaith byd-eang, gan annog myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i hyrwyddo eu gwaith ymchwil a'u brwdfrydedd dros eu dewis bwnc er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd nad ydynt yn arbenigol. Nod 3MT yw dangos i wahanol gynulleidfaoedd ansawdd ac amrywiaeth y gwaith ymchwil a wneir gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe, pa mor berthnasol ydyw i'r byd rydym yn byw ynddo a'r effaith y mae'n ei chael arno.

Gan siarad am ei llwyddiant yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, meddai Manuela: “Penderfynais gymryd rhan yng nghystadleuaeth 3MT er mwyn herio fy sgiliau cyfathrebu ac, yn wir, ni allwn fod wedi gwneud penderfyniad gwell.

“Mae'r fath brofiad wedi rhoi'r llwyfan perffaith i geisio esbonio sut mae braster corfforol yn effeithio ar ddatblygiad clefydau niwroddirywiol, colli celloedd yr ymennydd, a pham rwyf yn chwilio am wahaniaethau o ran braster rhwng gwaed a hylif cerebrosbinol pobl iach a chleifion â chlefydau niwroddirywiol.”

Ychwanegodd yr Athro Nuria Lorenzo-Dus, Deon Ymchwil Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gynnal digwyddiad 3MT blynyddol er mwyn rhoi cyfle i'n hymchwilwyr ôl-raddedig ddangos amrywiaeth ac arloesedd anhygoel eu gwaith. Fel arweinwyr ymchwil y dyfodol, mae pob un o'n cyfranogwyr yn barod i oresgyn pa bynnag heriau sy'n eu hwynebu – ac eleni roedd yn rhaid i berfformiadau rownd derfynol 3MT fod ar ffurf rithwir yn hytrach na bod yn berfformiadau byw.

“O blith nifer o gyflwyniadau arbennig, rwyf wrth fy modd bod Manuela Pacciarini wedi ennill cystadleuaeth eleni am esbonio ei gwaith ymchwil ar ddarganfod bioddangosyddion lipid mewn clefydau niwroddirywiol.”

Bydd Manuela yn mynd ymlaen i rownd gogynderfynol 3MT y DU ym mis Gorffennaf ac mae’n bosib y caiff gyfle i gymryd rhan yn rownd derfynol ar-lein 3MT y DU ym mis Medi, a gyflwynir gan Vitae, un o geffylau blaen y byd ym maes datblygu ymchwilwyr.

Rhannu'r stori