Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Gwersi Saesneg am ddim yn parhau ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae'r gwersi Saesneg am ddim i ddechreuwyr a gynigir gan Brifysgol Abertawe yn dal i ffynnu er gwaethaf y cyfyngiadau symud. 

Hyd yn hyn, mae cymysgedd o oedolion o fwy na 70 o wledydd wedi manteisio ar y gwersi, a gynigir ar-lein bellach gan Wasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS) y Brifysgol.

Mae aelodau tîm ELTS eisoes wedi llwyddo i addasu'r cyrsiau a addysgir yn ffurfiol er mwyn eu cynnig ar-lein.

Meddai'r tiwtor Saesneg ar gyfer Astudio yn y Brifysgol Jade Fouracre-Reynolds: “Gan weithio ar y cyd â darparwyr ac asiantaethau eraill yn Abertawe ac ar draws De Cymru, mae'r dosbarthiadau hyn yn cyfrannu at ddarparu mynediad cyson at addysg ieithyddol, rhyngweithio cymdeithasol a meithrin cysylltiadau cymunedol cryf ar gyfer unigolion a all wneud cyfraniad mawr.

“Gwnaethom ddechrau addysgu ar-lein er mwyn sicrhau parhad y cyrsiau, er gwaethaf yr amgylchiadau digynsail. Rydym wedi gweld bod y fformat hwn yn ymestyn ein cyrraedd – gan ein galluogi i ddarparu ar gyfer hyd yn oed mwy o ddysgwyr a gwirfoddolwyr.”

Daw'r gwirfoddolwyr o gronfa o aelodau staff ELTS a'r brifysgol yn ehangach, ynghyd â hyfforddeion CELTA llwyddiannus, ffrindiau cymwysedig ac athrawon sy'n ymweld.

Maent yn addysgu drwy Zoom a chynhelir y dosbarthiadau ar sail galw heibio, felly nid oes unrhyw ymrwymiad penodol o ran presenoldeb ac mae dysgwyr yn rhydd i gymryd rhan pryd bynnag y bo modd iddynt.

Ychwanegodd Jade: “Mae croeso i bawb ac mae'r manteision cyffredin yn bleser pur.”

Mae croeso i ddysgwyr newydd bob amser. Yr unig beth y mae angen iddynt ei wneud yw cofrestru drwy'r wefan. Cynhelir y dosbarthiadau ar hyn o bryd yn y prynhawn ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau heb unrhyw ddyddiadau tymor penodol. Fe'u cynhelir bob wythnos drwy gydol y flwyddyn ac eithrio mis Rhagfyr a gwyliau banc.

Cadwch lygad allan am ddiweddariadau rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol Twitter & Instagram 

Rhannu'r stori