Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr ledled y DU (1-7 Mehefin), rydym yn bwrw golwg dros y ffordd y mae Discovery yn parhau i helpu i newid bywydau yn Ne Cymru ac ym mhedwar ban byd.

Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr ledled y DU (1-7 Mehefin), rydym yn bwrw golwg dros y ffordd y mae Discovery yn parhau i helpu i newid bywydau yn Ne Cymru ac ym mhedwar ban byd. 

Mae Discovery yn elusen gofrestredig ym Mhrifysgol Abertawe sydd wedi'i sefydlu ers 1966.

Fe'i ffurfiwyd yn wreiddiol gan grŵp o fyfyrwyr ac erbyn hyn mae gan yr elusen dros 600 o wirfoddolwyr mewn 30 o brosiectau ar draws Abertawe.

Mae Discovery yn cynnal amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, oedolion hŷn, oedolion ag anghenion ychwanegol, yn ogystal â phobl ifanc. Mae'r gwirfoddolwyr hefyd yn helpu i leihau unigrwydd ac ynysu ymhlith cymuned y myfyrwyr drwy fentrau'r Hyrwyddwyr Lles a CONNECT, yn ogystal â ffurfio ‘Cyfeillion Ymgyfarwyddo’ er mwyn cefnogi myfyrwyr awtistig newydd wrth iddynt gyrraedd i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r elusen hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ymarferol, gan gynnwys mynd ati i lanhau traethau a phrosiect rhyngwladol yn Siavonga yn ne Zambia.

“Rwy'n dwlu ar wirfoddoli gyda Discovery gan fod pob dydd yn wahanol,” meddai Emily Galloghly, sy'n astudio MSc mewn Seicoleg Glinigol. 

“Rwyf wedi cwrdd â chynifer o bobl o feysydd gwahanol yn ystod fy nghyfnod yn gwirfoddoli. Mae'n elusen mor amrywiol a chynhwysol sy'n cynnig lle diogel i unrhyw un sydd am roi cynnig ar wirfoddoli.

“Mae Discovery wedi darparu cyfleoedd amhrisiadwy i'm helpu i weithio tuag at fy nod o fod yn seicolegydd clinigol. Rwy'n teimlo'n freintiedig i wirfoddoli gyda hen bobl sydd yng nghyfnodau canol a diweddarach dementia, yn ogystal â gwirfoddoli ar y cynllun gwirfoddoli â chefnogaeth. Fel cydlynydd prosiect, rwyf wedi magu fy sgiliau arwain a chyfathrebu, sy'n hanfodol er mwyn gwella fy nghyflogadwyedd.”

Nawr yn fwy nag erioed, mae angen cymorth gwirfoddolwyr ar ein cymuned leol wrth i ni i gyd ymdopi â chyfnod digynsail yn ein hanes modern.

Ac mae gwirfoddolwyr gyda Discovery wedi bod yn chwarae eu rhan yn ystod y pandemig coronafeirws, wrth i wirfoddoli ar ffurf rithwir ddod yn rhywbeth cyffredin yn ystod y cyfyngiadau symud a'r mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Mae rhai pobl wedi bod yn helpu pobl ddall a phobl â nam ar y golwg drwy Be My Eyes, ap am ddim sy'n cysylltu gwirfoddolwyr â'r rhai y mae angen cymorth gweledol arnynt drwy alwad fideo fyw.

Mae'r elusen hefyd wedi bod yn helpu myfyrwyr a staff i wirfoddoli am y prosiect ‘For The Love of Scrubs’ lle mae gwirfoddolwyr yn creu eitemau hanfodol i staff gofal iechyd mewn ysbytai lleol yn ardal Abertawe, gan gynnwys sgrybs, masgiau wyneb, bagiau ymolchi a bandiau gwallt.

Yn ogystal â hyn, mae prosiect gwirfoddoli â chefnogaeth sy'n helpu oedolion ag anghenion ychwanegol o bell drwy alwadau ffôn a thechnoleg ddigidol bob wythnos.

Meddai, Carys Jones, sy'n astudio troseddeg: “Mae gwirfoddoli gyda Discovery yn ystod y cyfnod ansicr ac anodd iawn hwn wedi hybu fy iechyd meddwl. Yn ddiarwybod i mi, galw gwirfoddolwyr â chefnogaeth yw uchafbwynt fy wythnos bellach ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny hefyd.

“Mae'r galwadau'n rhoi cymaint o bleser i mi, ac rwy'n gwerthfawrogi clywed straeon a rhannu atgofion yn fawr iawn. Mae gallu ysgogi rhywun arall i wenu, a chwerthin, a chael yr un profiad yn ôl wedi fy helpu i oresgyn heriau caletaf y misoedd diwethaf hyn.

“Mae gwirfoddoli gyda Discovery wedi atgyfnerthu fy iechyd meddwl drwy gydol y flwyddyn, ond hyd yn oed yn fwy yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae'n helpu i fy atgoffa bob dydd ei bod yn hawdd iawn bod yn garedig.”

Mae Discovery hefyd yn dathlu ar ôl sicrhau statws Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) am y pedwerydd tro y mis diwethaf.

Dyma safon ansawdd ledled y DU ar gyfer sefydliadau â gwirfoddolwyr sy'n ceisio gwella ansawdd y profiad gwirfoddoli i wirfoddolwyr ac annog sefydliadau i gydnabod y cyfraniad anferth y maent yn ei wneud, a hynny'n well.

“Rwyf wrth fy modd bod Discovery wedi sicrhau dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr eto,” meddai Eleanor Norton, y rheolwr gyfarwyddwr.

“Gwirfoddolwyr sy'n ein harwain ac mae'r rhan fwyaf o'r gwirfoddolwyr hynny'n fyfyrwyr sy'n derbyn rolau arwain, gan gynnwys bod yn ymddiriedolwyr ac yn gydlynwyr prosiectau. Mae'r dyfarniad hwn yn dyst i'w gwaith caled a'u hymrwymiad hwy, yn ogystal â'n tîm anhygoel o staff sy'n eu cefnogi.”

Ychwanegodd Sian Rabi-Laleh, Swyddog Recriwtio Gwirfoddolwyr Discovery: “Ers mwy na hanner canrif, mae Discovery wedi cael effaith fawr ar fyfyrwyr ac ar Abertawe fel dinas. Mae'n galluogi myfyrwyr i wella eu CV, dysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd, cwrdd ag amrywiaeth eang o bobl o bob rhan o'r gymuned a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, sef y peth pwysicaf oll.”

Ceir mwy o wybodaeth am Discovery a sut i gymryd rhan drwy fynd i wefan neu dudalen Facebook yr elusen.

Rhannu'r stori