Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Myfyrwyr yn defnyddio Beiciau Santander.

Bydd beicwyr yn Abertawe yn ôl ar y cyfrwy o 1af Gorffennaf yn dilyn penderfyniad i ailagor cynllun rhannu beiciau poblogaidd y Brifysgol.

Wedi’i gynnal gan nextbike  mewn cydweithrediad â Santander a Phrifysgol Abertawe cafodd y cynllun beiciau, sydd â thros 70 o feiciau, ei gau ym mis Mawrth o ganlyniad i bandemig Coronafeirws.

Bydd ailagor y cynllun yn cyd-fynd ag ailagor canol dinas Abertawe yn raddol meddai rheolwyr ym maes twristiaeth.

Lansiwyd y cynllun yn 2018 ar ôl i’r Brifysgol ennill Her Prifysgolion Beiciau Santander ac mae’r cynllun wedi helpu miloedd o fyfyrwyr, pobl leol a thwristiaid i seiclo’n hyderus o amgylch y ddinas gan logi beiciau 25,000 o weithiau hyd yn hyn.

Erbyn hyn wrth i fesurau’r cyfyngiadau symud gael eu lleihau mae timau cynnal a chadw wrthi’n gweithio’n ddiflino i ailagor y cynllun er mwyn sicrhau bod gan ddefnyddwyr gyfle i ddewis dwy olwyn yn lle pedair olwyn.

“Rydyn ni wrth ein bodd i gael yr olwynion yn troi unwaith eto ar 1af Gorffennaf,” meddai Cyfarwyddwr Rheoli nextbike, Krysia Solheim.

“Mae pawb sy’n rhan o’r cynllun wedi gweithio’n ddiflino i wireddu hyn a bydd gweld y beiciau yn ôl ar y strydoedd yn wych.”

Meddai Greg Ducie, Cyfarwyddwr Ystadau a Rheoli Cyfleusterau Prifysgol Abertawe: “Rwyf wrth fy modd bod y cynllun poblogaidd hwn yn dychwelyd ac rwy’n gwybod bod llawer o bobl wedi bod yn edrych ymlaen at ei ddefnyddio eto. Rwyf hefyd yn falch y gallwn ni barhau fel y Cyflogwr Beiciau-gyfeillgar cyntaf yng Nghymru i annog teithio llesol yn ystod y cyfnod hwn a diolch i Gyngor Dinas Abertawe am ei gefnogaeth.”

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth y Cyngor: “Mae hwn yn symudiad arall a groesawir i gyd-fynd ag ailagor canol dinas Abertawe yn raddol.

“Mae canol y ddinas yn edrych yn wahanol iawn erbyn hyn oherwydd ein gwaith gyda nifer o bobl eraill i gadw aelodau’r  cyhoedd yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn ac rydyn ni’n parhau i ofyn i bobl gadw pellter cymdeithasol a chadw’n ddiogel.

“Bydd y ddinas yn adfer yn gryf ar ôl y pandemig ac mae llawer o filiynau o bunnoedd eisoes yn cael eu buddsoddi ynddi gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat.”

Meddai Mike Cherry, Rheolwr BikeAbility Wales: “Mae BikeAbility Wales yn edrych ymlaen at ailddechrau cynllun Beiciau Santander Abertawe. Bydd aelodau staff yr elusen yn cynnal a chadw’r beiciau a’u glanhau yn rheolaidd er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy’n eu defnyddio.”

Meddai Ms Solheim, er bod seiclo yn ffordd berffaith o gadw pellter diogel o deithwyr eraill anogodd hi feicwyr i gymryd rhagofalon iechyd synhwyrol.

“Rydyn ni’n atgoffa pob un o’n cwsmeriaid i weithredu mesurau synhwyrol a chyfrifol wrth ddefnyddio’r beiciau gan gynnwys dilyn rheolau swyddogol ynghylch cadw pellter cymdeithasol, ystyried canllawiau golchi dwylo a glendid a pheidio â defnyddio ein beiciau os ydynt yn dangos symptomau Coronafeirws.

Rydyn ni’n glanhau cyrn a chyfrifiaduron pob un o’n beiciau yn y maes ac yn y gweithdy. Rydyn ni hefyd yn argymell bod cwsmeriaid yn gwisgo menig wrth ddefnyddio’r beiciau yn ogystal â golchi eu dwylo cyn ac ar ôl defnyddio’r beiciau.”

Anogodd feicwyr i ddilyn yr arweiniad canlynol:

  • Dilynwch ganllawiau lleol er mwyn eich diogelu eich hun a’ch cymuned
  • Gwiriwch eich beic cyn i chi ddechrau seiclo
  • Peidiwch â chyffwrdd â’ch wyneb cyn neu ar ôl seiclo
  • Dylech chi olchi eich dwylo cyn ac ar ôl pob taith seiclo.. Argymhellir eich bod chi’n gwisgo menig.
  • Dylech chi sicrhau eich bod chi’n cadw pellter cymdeithasol wrth seiclo er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws

Mae Beiciau Santander ar gael 24 awr y dydd a gall defnyddwyr gofrestru a llogi beiciau mewn ychydig o funudau yn unig. Mae’r cynllun rhannu beiciau yn un o’r ffyrdd rhataf i deithio o amgylch dinas. Mae ffioedd yn dechrau mor rhad ag 16c y dydd.

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth, ewch i Nextbike.  

Rhannu'r stori