Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Graddedigion yn dathlu

Mae Prifysgol Abertawe’n rhannu’r 32ain safle yn Nhablau Cynghrair 2021 y Complete University Guide – ei safle uchaf erioed.

Mae'r prif dabl yn seiliedig ar ddeg mesur: safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil, pwyslais ar ymchwil, rhagolygon graddedigion, y gymhareb rhwng myfyrwyr a staff, gwariant ar wasanaethau academaidd, gwariant ar gyfleusterau i fyfyrwyr, y nifer sy'n ennill graddau anrhydedd da ac sy'n cwblhau cyrsiau. Mae'n cynnwys 130 o sefydliadau.

Prifysgol Abertawe yw'r brifysgol orau yng Nghymru o hyd ar gyfer rhagolygon myfyrwyr, ac mae yn y 13eg safle yn y DU.

Mae'r Complete University Guide hefyd yn llunio tablau cynghrair ar wahân sy'n cwmpasu 70 o bynciau, ac eleni mae 41 ohonynt yn cynnwys Abertawe.

Mae deg pwnc yn neg uchaf y tabl perthnasol i'w pwnc, gyda naw arall ymysg yr 20 uchaf.

  • Meddygaeth Gyflenwol – 1af
  • Technoleg Feddygol – 3ydd
  • Astudiaethau Celtaidd – 8fed
  • Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu – 8fed
  • Peirianneg Gyffredinol – 8fed
  • Peirianneg Gemegol – 9fed
  • Meddygaeth – 10fed
  • Technoleg Deunyddiau – 10fed
  • Astudiaethau Americanaidd – 10fed
  • Peirianneg Awyrenneg a Gweithgynhyrchu – 10fed

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rwy'n falch bod Prifysgol Abertawe wedi dringo tabl cynghrair y Complete University Guide am y bumed flwyddyn yn olynol, gan gyrraedd ein safle uchaf erioed. Rydym yn gwybod bod tablau sefydliadau yn ffactor allweddol pan fydd darpar fyfyrwyr yn gwneud penderfyniadau, ac mae hyn yn dangos bod ein hymrwymiad i wella yn parhau wrth i ni ddechrau ein hail ganrif.

“Mae ein llwyddiant yn dangos gwaith caled y staff ym mhob rhan o'n Prifysgol a'n Hundeb Myfyrwyr, sy'n ymdrechu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn manteisio i'r eithaf ar eu hamser yma yn Abertawe. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd profiad ein myfyrwyr ac yn canolbwyntio ar baratoi ein myfyrwyr ar gyfer bywyd ar ôl iddynt adael y Brifysgol. Erbyn hynny, bydd ein graddedigion wedi magu'r sgiliau a chael y profiadau y bydd eu hangen arnynt er mwyn ffynnu yn eu dewis yrfaoedd, ac rydym yn gwybod bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi hynny.

Mae'n wych gweld bod y tablau hyn yn adlewyrchu ein gwerthoedd craidd, ac rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn.”

Gweler canlyniadau llawn y tablau cynghrair.

Rhannu'r stori