Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Ysgol Feddygaeth yn sicrhau hwb mawr i ymchwil nanofeddygaeth

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi sicrhau hwb ariannol o ffynhonnell uchel ei bri i gyflymu'r broses o droi darganfyddiadau ymchwil yn brosiectau datblygu ym maes nanofeddygaeth. 

Gan adeiladu ar ymchwil lwyddiannus a ddatblygwyd gan arbenigwyr yng Nghanolfan NanoIechyd y Brifysgol, nod dyfarniad Confidence in Concept (CiC) 2020 y Cyngor Ymchwil Feddygol yw cyflymu'r broses o roi darganfyddiadau ar waith er budd cleifion yn y pen draw.

Meddai'r Athro Deya Gonzalez, un o gyd-ymchwilwyr CiC y Cyngor Ymchwil Feddygol:

“Mae dyfarniad CiC y Cyngor Ymchwil Feddygol yn cydnabod cryfderau Abertawe ym maes nanofeddygaeth, sydd wedi cael eu datblygu'n effeithiol yn y Ganolfan NanoIechyd, gan ddangos gwerth dod ag ymchwilwyr ynghyd o feysydd biofeddygaeth, cemeg, ffiseg a pheirianneg i ddatblygu gwelliannau gofal iechyd newydd a mawr eu hangen drwy ddefnyddio nanodechnoleg er budd cleifion.”

Bydd cyllid CiC yn cefnogi pedwar prosiect annibynnol dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd y prosiectau'n canolbwyntio ar ymchwil i roi nanofeddygaeth ar waith, gan gefnogi'r prosiectau sydd fwyaf tebygol o gael effaith yn y dyfodol agos a denu buddsoddiadau dilynol.

Bydd y prosiectau'n adeiladu ar ymchwil sefydledig i brofi ymarferoldeb ymagwedd, er enghraifft sefydlu nanodriniaeth newydd. Bydd y cyllid yn galluogi ymchwilwyr i gwblhau'r arbrofion hanfodol i brofi cydsyniad, ac yn caniatáu i ymchwil droi'n fwy effeithiol at gynlluniau mwy i ariannu camau gweithredu a meithrin cydweithrediad â phartneriaid diwydiannol.

Mae cronfa CiC wedi cael ei strwythuro i feithrin cydweithrediad â diwydiant ac arbenigedd masnachol drwy fwrdd arbenigol o gynghorwyr arbenigol annibynnol, gan gynnwys arweinwyr academaidd a diwydiannol o'r DU. Mae sefydlu'r llwybr hwn i roi nanofeddygaeth ar waith yn tynnu sylw at lwyddiant ymchwil nanofeddygaeth yn Abertawe ym meysydd nanofeddyginiaethau, nanoddiagnosteg, meddygaeth atgynhyrchiol a bioddiogelwch nano.

Meddai'r Athro Steve Conlan, Prif Ymchwilydd CiC y Cyngor Ymchwil Feddygol:

“Dyma gyfnod cyffrous i nanofeddygaeth. Bydd dyfarniad CiC yn ein galluogi i greu llwybr cryfach, gan fynd â phrosiectau ymarferol o gamau cynnar y gwaith ymchwil i'r broses o'u gwireddu.”

Mae'r Ysgol Feddygaeth hefyd yn cynnig rhaglen MSc Nanofeddygaeth lwyddiannus iawn sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd i'r afael ag arloesi â chymorth nanodechnoleg ym meysydd meddygaeth foleciwlaidd, datblygu cyffuriau, prosesau gwell ar gyfer cyflwyno cyffuriau a delweddu/diagnosteg.

Ceir mwy o wybodaeth am y cwrs yn ystod ein Diwrnod Agored Rhithwir nesaf

 

Rhannu'r stori