Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Prawf ar-lein arloesol a fydd yn croesawu mwy o fyfyrwyr rhyngwladol i Brifysgol Abertawe

Bydd myfyrwyr rhyngwladol sydd am astudio yn Abertawe bellach yn cael sefyll prawf iaith Saesneg hollbwysig ar-lein, gan sicrhau y gall eu ceisiadau i'r Brifysgol barhau yn ôl yr arfer. 

Mae'n rhaid i fyfyrwyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel mamiaith fodloni meini prawf sgiliau iaith cyn y gallant astudio ym Mhrifysgol Abertawe ac mewn amgylchiadau arferol byddant wedi sefyll Prawf Iaith Saesneg Abertawe (SWELT) yn bersonol yma neu mewn canolfan profion dramor.

Fodd bynnag, gan fod hyn yn amhosib oherwydd y rheoliadau ynghylch coronafeirws a chadw pellter cymdeithasol, mae staff Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS) Abertawe, gyda chymorth amhrisiadwy gan Pete Langley o Wasanaethau a Systemau Gwybodaeth y Brifysgol, wedi cymryd camau i addasu'r prawf fel y gellir ei sefyll ar-lein.

Nawr, diolch i waith arloesol gan aelodau tîm ELTS, yn enwedig Lucy Davies, Cydlynydd Asesu ELTS, mae fersiwn ar-lein ddiogel o'r prawf ar gael am ddim a fydd yn galluogi myfyrwyr tramor i barhau i gyflwyno ceisiadau i Abertawe.

Hyd yn hyn, cysylltwyd â mwy na 1,000 o ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol a bydd 600 o brofion ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda mwy'n cael eu hychwanegu cyn bo hir.

Meddai Siân Impey, Pennaeth Swyddfa Datblygu Rhyngwladol y Brifysgol:

“Diolch i waith caled ELTS, rydym bellach yn gallu cynnig ein prawf iaith Saesneg ar-lein ein hunain i bobl sy'n cyflwyno cais i Abertawe o bedwar ban byd y mae cau'r canolfannau profion yn eu gwledydd brodorol wedi effeithio arnynt. Dyma newyddion gwych!

“Bydd hyn yn rhyddhad mawr i lawer o bobl a'r gobaith yw y bydd yn ein galluogi i barhau i groesawu myfyrwyr o bedwar ban byd i gymuned Prifysgol Abertawe.”

Ceir mwy o wybodaeth am y prawf ar-lein ar wefan ELTS

 

Rhannu'r stori