Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Bryan Washington

Mae Bryan Washington wedi ennill y wobr am ei gasgliad trawiadol o straeon byrion sy'n portreadu amrywiaeth Houston, Tecsas.

Mae Bryan Washington, awdur 27 oed o America, wedi ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe gwerth £30,000 am ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, LOT.  

Wrth dderbyn dyfarniad 2020, meddai Bryan: “Mae'n wych pryd bynnag y mae cynulleidfa'n gwerthfawrogi eich stori, ym mha bynnag ffordd, heb sôn am gael cydnabyddiaeth am eich gwaith ar lwyfan mor anferth. Ac mae'n fraint adrodd straeon am y cymunedau sy'n annwyl i mi, a'r cymunedau rwy'n byw yn eu mysg – cymunedau sydd ar y cyrion, cymunedau pobl dduon a chymunedau pobl dduon hoyw, yn benodol.  Felly, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i rannu lle â'm cyd-enwebeion, ac rwy'n gwerthfawrogi cefnogaeth fy ffrindiau, fy nheulu a'm teulu dewisol. Fy enw sydd ar y wobr, ond mae timau Atlantic a Riverhead, fy asiant Danielle Bukowski a phawb sydd wedi neilltuo amser i'r straeon hyn yn ei haeddu hefyd. Heboch chi i gyd, nid oes dim llyfr. Rwy'n ddiolchgar iawn.”

Dechreuodd Bryan ysgrifennu LOT (Atlantic Books) yn 2016 gyda'r nod o bortreadu daearyddiaeth dinas Houston, gan ganolbwyntio ar fywydau mewnol ei gyd-ddinasyddion ymylol. Mae'r casgliad wedi cael ei glodfori fel gwaith dirdynnol, ingol, dwys ac ysgytwol, gan gynnig cipolwg dwfn ar y bobl sy'n ffynnu ac yn marw ar draws cymdogaethau niferus Houston. O berthynas menyw ifanc yn chwalu ar draws cyfadeilad llawn fflatiau i ôl-effeithiau corwynt Harvey, mae LOT yn cyflwyno casgliad trawiadol ond tyner o straeon cysylltiedig sy'n trafod bodolaeth ansicr ac yn rhoi golwg syfrdanol ar ystyr cymuned, teulu a bywyd.

Ar ôl ystyriaeth ofalus, dewiswyd yr enillydd gan banel beirniadu estynedig wedi'i gadeirio gan yr Athro Dai Smith CBE o Brifysgol Abertawe, a ddywedodd y canlynol am LOT: “Mae casgliad Bryan Washington o straeon byrion, LOT, yn gwneud yr hyn y mae unrhyw waith ffuglen mawr yn ei wneud, sef dod o hyd i ffordd o oleuo byd na fyddai'n bosib ei adnabod fel arall, a hynny mewn modd ffraeth a chain. Dyma lais go iawn, unigryw, bythgofiadwy, hael a chynnes sy'n rhoi ymdeimlad o gymuned a phrofiad bywyd llawn i ni. Fel y dywedodd un o'r beirniaid, mae ganddo lais di-flewyn-ar-dafod.”

Mae'r wobr yn dathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama, ac fe'i dyfernir i'r awdur 39 oed neu'n iau sy'n ysgrifennu'r gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg.

Y canlynol oedd y pum teitl arall ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2020:

  • Surge gan Jay Bernard (Chatto & Windus)
  • Flèche gan Mary Jean Chan (Faber & Faber)
  • Inland gan Téa Obreht (Weidenfeld & Nicolson)
  • If All the World and Love were Young gan Stephen Sexton (Penguin Random House)
  • On Earth We’re Briefly Gorgeous gan Ocean Vuong (Jonathan Cape, Vintage)

Mae'r enillwyr blaenorol yn cynnwys nofel gyntaf anhygoel Guy Gunaratne, In Our Made and Furious City, yn 2019; casgliad syfrdanol Kayo Chingonyi o farddoniaeth, Kumukanda, yn 2018; casgliad Fiona McFarlane o straeon byrion, The High Places, yn 2017; Grief is the Thing with Feathers gan Max Porter yn 2016; a To Rise Again at a Decent Hour gan Joshua Ferris yn 2014.

Rhannu'r stori