Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Yr Athro Steve Conlan o Brifysgol Abertawe fydd y prif siaradwr yn uwchgynhadledd rithwir gyntaf y byd ar ymchwil canser ac imiwnoleg.

Bydd yn cyflwyno ei waith i gynulleidfa ar-lein fyd-eang o fwy na miliwn o bobl yn nigwyddiad SelectScience® yr wythnos nesaf.Wrth i COVID-19 ledaenu a gorfodi digwyddiadau allweddol yn y calendr gwyddoniaeth i gael eu gohirio, bydd yr Uwchgynhadledd Rithwir yn cynnig fforwm allweddol i alluogi gwyddonwyr a gwneuthurwyr i barhau i gysylltu â'i gilydd.

Dywedodd yr Athro Conlan, pennaeth grŵp ymchwil Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol ac Uwch-aelod Cyswllt yn Sefydliad Ymchwil Methodistiaid Houston, ei bod yn bwysig i wyddonwyr barhau i gyfathrebu yn ystod y pandemig.

Meddai: “Daw datblygiadau gwyddonol mawr drwy weithio ac ymdrechu ar y cyd. Bydd cymryd rhan yn yr uwchgynhadledd yn rhoi cyfle i ni rannu ein datblygiadau diweddaraf o ran imiwnotherapi.

“Mae'n ddiddorol y bydd mwy o bobl yn rhan o'r digwyddiad hwn nag a fyddai'n wir am gyfarfod corfforol, felly mae'n ehangu'r cyfle i gwrdd â busnesau ac ymchwilwyr newydd, a fydd yn helpu i gynyddu cydweithrediad byd-eang.”

Y cyhoeddwr gwyddoniaeth SelectScience fydd yn cynnal y digwyddiad ar-lein a bydd gwyddonwyr a gwneuthurwyr gwyddonol o bedwar ban byd yn ymuno ag ef i archwilio prif bynciau megis imiwnoleg a COVID-19, therapi CAR T-cell, imiwnotherapi, ymchwil genomeg a thechnoleg CRISPR, diagnosteg canser, biopsïau hylif, delweddu canser, dulliau o gyflwyno cyffuriau, deunydd genetig microbau (y microbiome) a mwy.

Bydd yr uwchgynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan wyddonwyr ac arloeswyr technoleg o'r radd flaenaf, gweithdai, cyfweliadau fideo, hybiau adnoddau rhithwir, a'r newyddion diweddaraf am gynhyrchion a rhaglenni, yn ogystal â chyfleoedd i sgwrsio'n fyw.

Cofrestrwch am ddim heddiw a chadwch eich lle. Bydd yr uwchgynhadledd ar agor bob dydd o ddydd Llun, 11 Mai i ddydd Mercher, 13 Mai a gall cynrychiolwyr alw heibio a gadael fel y mynnant.

Bydd sgwrs 30 munud yr Athro Conlan yn dechrau am 1pm ddydd Llun a bydd sesiwn holi ac ateb fyw yn ei dilyn.

Rhannu'r stori