Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae gwyddonwyr o bob rhan o'r DU, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, yn galw ar y cyhoedd i gymryd rhan mewn astudiaeth newydd a fydd yn helpu i adnabod pwy sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddal COVID-19 a pham mae rhai pobl yn dioddef yn waeth nag eraill.

Mae gwyddonwyr o bob rhan o'r DU, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, yn galw ar y cyhoedd i gymryd rhan mewn astudiaeth newydd a fydd yn helpu i adnabod pwy sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddal COVID-19 a pham mae rhai pobl yn dioddef yn waeth nag eraill.

Nod astudiaeth COVIDENCE UK yw recriwtio o leiaf 12,000 o bobl 16 oed neu'n hŷn o bob rhan o'r DU.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ymysg y partneriaid yn y prosiect, a arweinir gan Brifysgol y Frenhines Fair yn Llundain ac a ariennir gan Barts Charity.

Mae'r astudiaeth yn ceisio recriwtio grŵp mor amrywiol o wirfoddolwyr â phosib, gan gynnwys rhai sydd eisoes wedi cael achos o COVID-19 wedi'i brofi neu achos posib, a rhai sydd heb gael y clefyd.

Mae'r tîm hefyd am gynnwys cymysgedd o bobl â chyflyrau sydd eisoes yn bodoli megis diabetes, clefyd yr ysgyfaint, clefyd y galon a phwysedd gwaed uchel, a phobl heb y cyflyrau hyn.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn helpu gwyddonwyr i ddeall pam mae'n ymddangos bod rhai pobl mewn mwy o berygl.

Mwy o wybodaeth am yr ymchwil

Meddai'r Athro Ronan Lyons o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sy'n arwain y gwaith ymchwil yng Nghymru:

“Rydym yn falch y bydd cyfle i bobl yng Nghymru gymryd rhan yn yr ymchwil arloesol hon. Bydd yn profi'n gyflym a all nifer o ymyriadau anfferyllol leihau nifer y bobl sy'n dioddef yn ddifrifol o haint COVID-19.”

Mae arweinydd yr astudiaeth, Adrian Martineau, Athro Heintiau Anadlol ac Imiwnedd Prifysgol y Frenhines Fair yn Llundain, yn esbonio:

“Rydym yn gwybod ei bod yn ymddangos bod clefyd coronafeirws yn fwy peryglus i bobl â rhai cyflyrau meddygol. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod pam mae hynny'n wir. Ai'r rheswm yw bod pobl â'r cyflyrau hyn yn tueddu i fod yn hŷn? Ai rhywbeth sy'n ymwneud â'r cyflwr sydd eisoes yn bodoli ydyw? A allai meddyginiaethau penodol effeithio ar y perygl? Neu a yw ffactorau ffordd o fyw megis ysmygu neu batrymau deietegol gwahanol, sy'n tueddu i gyd-fynd â rhai o'r cyflyrau hyn, yn bwysig? Gallai'r atebion i'r cwestiynau hyn ein helpu i lunio strategaethau newydd er mwyn lleihau'r perygl y bydd pobl yn cael yr haint, wrth i ni aros am frechlyn effeithiol."

Mae'r tîm hefyd yn gobeithio y bydd yr wybodaeth a gesglir yn helpu i esbonio pam mae nifer yr achosion a marwolaethau o COVID-19 yn cynnwys cyfran uchel o bobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig.

Gofynnir i recriwtiaid gofrestru yma a llenwi'r holiadur cychwynnol manwl, sy'n cwmpasu eu hanes meddygol, eu ffordd o fyw a'u hymddygiad o ran cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo, ac ati. Yna bydd diweddariadau misol syml yn olrhain unrhyw symptomau newydd.

Bydd yr astudiaeth hefyd yn galw'n awtomatig ar gofnodion GIG cleifion er mwyn cynnwys gwybodaeth am ganlyniadau profion ac enghreifftiau o fynd i'r ysbyty.

Rhannu'r stori