Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Logo GwyddonLe T

Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n cyflwyno cyfres o weithgareddau ar-lein cyfrwng Cymraeg fel rhan o ddigwyddiad amgen Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar ei newydd wedd a gynhelir ar-lein rhwng 25 a 30 Mai.

Dylai'r digwyddiad wythnos o hyd, yr ŵyl gystadleuol fwyaf yn Ewrop i bobl ifanc, fod wedi cael ei gynnal yn Sir Ddinbych eleni, ond cafodd ei ohirio o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws. Yr enw ar ŵyl eleni fydd Eisteddfod T (gan chwarae ar y geiriau ‘Ti’ a ‘Tŷ’) a chaiff rowndiau terfynol y cystadlaethau eu darlledu ar raglenni arbennig ar S4C a BBC Radio Cymru.

Mae pafiliwn y GwyddonLe wedi bod yn bartneriaeth rhwng yr Urdd a Phrifysgol Abertawe ers 2010, ac mae'n un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod, wrth i arbenigwyr ddod â gwyddoniaeth yn fyw gydag arddangosion a gweithdai gwyddonol rhyngweithiol ar gyfer y miloedd o bobl ifanc sy'n ymweld â'r pafiliwn bob dydd.

Gyda'r Eisteddfod yn cael ei symud ar-lein, bydd Prifysgol Abertawe'n parhau i gynnig gweithgareddau gwyddoniaeth drwy ryddhau fideo newydd bob dydd yn ystod yr wythnos gan un o arbenigwyr gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, gan ddangos arbrofion syml y gall plant a phobl ifanc eu gwneud yn ddiogel gartref. Bydd y Brifysgol hefyd yn cynnal cystadlaethau ar-lein ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd.

Bydd y fideos ar gael ar sianel YouTube Prifysgol Abertawe am 11am.

Bydd y fideos dyddiol yn cynnwys y canlynol:

  • Dydd Llun – ‘Deinosoriaid’ gyda Dr Rhian Meara, Uwch-ddarlithydd Daearyddiaeth
  • Dydd Mawrth – ‘Beth sydd yn y Gwaed?’ gyda Dr Alwena Morgan, Darlithydd Biocemeg
  • Dydd Mercher – ‘Sut i Greu Enfys’ gyda Dr Aled Isaac, Uwch-ddarlithydd Ffiseg
  • Dydd Iau – ‘Tisiw!’ gydag Amanda Jones, Uwch-ddarlithydd Nyrsio
  • Dydd Gwener – ‘Her Technocamps’ gyda Luke Clement, Swyddog Addysg Technocamps

 Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe: “Yn naturiol, mae'n siomedig na allwn agor drysau'r GwyddonLe i'r miloedd o bobl ifanc sy'n mwynhau ein gweithgareddau eleni, ond rydym yn falch o allu cynnig y gweithgareddau digidol hyn. Gobeithio y bydd yr adnoddau hyn yn galluogi plant a phobl ifanc i barhau i ddysgu yn ystod wythnos hanner tymor mis Mai ac yn eu hysbrydoli i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg neu feddygaeth (STEMM). Drwy gynnig y gweithdai a'r gweithgareddau ar-lein hyn, byddwn hefyd yn galluogi'r Brifysgol i barhau i hyrwyddo gwyddoniaeth yn llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg ac i adeiladu ar y llwyddiant hwn.”

Rhannu'r stori