Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Plant yn cymryd rhan mewn gweithdy gwyddoniaeth

Mae gwyddonwyr ac academyddion allgymorth o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed yn eu ceginau a'u gerddi i lunio gweithdai a gwersi gwyddoniaeth a chynnwys ar gyfer clwb gwyddoniaeth ar-lein, er mwyn rhoi'r cymorth a'r adnoddau y mae eu hangen ar fyfyrwyr ysgol i barhau i ddysgu am wyddoniaeth gartref, yn ystod y cyfyngiadau symud.

Meddai un o academyddion Prifysgol Abertawe, yr Athro Mary Gagen, sy'n arwain y rhaglen Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) ar y cyd â Dr Will Bryan: “Pan ddaeth yn glir y byddai angen i ysgolion gau am gryn amser, gwnaethom ddechrau ystyried ffyrdd o gyflwyno ein gwersi gwyddoniaeth ymarferol ar-lein ac mewn llyfrau gwaith rhyngweithiol digidol, fel y gallai ein cyfranogwyr barhau i gael blas ar wyddoniaeth yn eu cartrefi, hyd yn oed os oes adnoddau cyfyngedig ar gael iddynt. Rydym hefyd wedi bod yn llunio deunyddiau ysgrifenedig y gellir eu hanfon ar ffurf copi caled at ddisgyblion nad oes ganddynt fynediad at dechnoleg ac rydym yn gweithio i ddarparu gliniaduron a llechi i'r disgyblion sydd â'r anghenion mwyaf.” 

Wrth i'r ysgolion aros ar gau, mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd plant, yn enwedig y rhai sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig, yn colli tir o ran eu gwaith ysgol. Mae hyn wedi sbarduno Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe (S4), prosiect allgymorth sy'n cyflwyno gweithdai gwyddoniaeth ymarferol a ysgogir gan chwilfrydedd i bobl ifanc, i lunio adnoddau ar-lein er mwyn helpu disgyblion i barhau i ddysgu am wyddoniaeth. Mae S4 yn un o bartneriaid Trio Sci Cymru, rhaglen Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd, ac yn gweithio gyda nifer o ysgolion yn ardaloedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Maesteg.

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar blant o gefndiroedd nad ydynt wedi ymwneud yn helaeth â gwyddoniaeth yn yr ysgol, nac addysg uwch, yn draddodiadol. Drwy weithio gyda disgyblion yn ystod eu tair blynedd gyntaf yn yr ysgol uwchradd, sef Cyfnod Allweddol 3, mae S4 yn gobeithio helpu myfyrwyr o amrywiaeth ehangach o gefndiroedd i ddewis gwyddoniaeth driphlyg ar gyfer TGAU. Fel arfer, mae cyfranogwyr S4 yn ymweld ag ystafell ddosbarth allgymorth wedi'i hadeiladu at y diben ar Gampws Singleton y Brifysgol ar gyfer gweithdai gwyddoniaeth ymarferol sy'n ceisio dod â gwyddoniaeth yn fyw, gan roi cyfle i ddisgyblion ymweld â champws y Brifysgol.

Nawr, yn ystod y cyfyngiadau symud, mae S4 wedi lansio fersiwn ar-lein o'r rhaglen lle mae tiwtoriaid gwyddoniaeth wedi gweithio o'u cartrefi i ddarparu arddangosiadau, gwersi, arbrofion gartref a gweithdai digidol, a'r cwbl wedi'i gyflwyno ar wefan S4. Mae'r adnodd hwn wedi cael ei ehangu hefyd i gynnig cynnwys i fyfyrwyr hŷn sy'n dilyn cwricwlwm Cyfnodau Allweddol 4 a 5, ac i blant iau yng Nghyfnod Allweddol 2, er mwyn cefnogi rhaglen Llywodraeth Cymru Cadw'n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu.

Meddai Heidi Rehwald, Rheolwr Prosiect S4: “Rydym wedi gweithio'n agos gyda'n hysgolion partner, fel y gall athrawon lywio'r astudiaethau, ac y gall myfyrwyr hefyd lawrlwytho'r deunyddiau eu hunain i weithio arnynt yn ôl eu cyflymder eu hunain – yn wir, mae'r adnoddau ar gael i unrhyw blentyn neu athro ledled y byd.”

Yn ogystal â gwersi Gwyddoniaeth Ar-lein S4 a Chlwb Gwyddoniaeth S4, mae'r rhaglen hefyd yn derbyn ceisiadau ac yn annog y myfyrwyr i roi gwybod i'r tîm am yr hyn y maent am ei ddysgu. Hefyd, ceir dolenni i Earth Live Lessons y biolegydd bywyd gwyllt Lizzie Daly, sy'n archwilio cadwraeth, bioleg, daearyddiaeth a phynciau gwyddorau daear gyda gwersi ar bynciau megis ecoleg palod, bioleg orangwtangiaid, ynni niwclear a seryddiaeth! Mae taflenni gwaith sy'n cyd-fynd â phob gwers ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2–5. Gall disgyblion hŷn hefyd wrando ar bodlediadau Archwilio Problemau Byd-eang y Brifysgol a defnyddio'r taflenni gwaith, y gweithgareddau a'r ymarferion sy'n cyd-fynd â hwy.

Mae'r ysgolion sy'n cymryd rhan wedi dangos eu bod yn cefnogi'r rhaglen. Meddai Paul Davies, Pennaeth Gweithredol Ysgol Gymunedol Dylan Thomas: “Gallaf gadarnhau 100% fod y rhaglen a'r cyfle wedi bod yn wych i'n staff a'n disgyblion, sydd wedi cael profiadau ymhell y tu hwnt i'r hyn y byddem wedi gallu eu cynnig fel arfer. Mae llawer mwy o ddisgyblion wedi meithrin brwdfrydedd dros wyddoniaeth drwy gydol y rhaglen ac rydym yn ddiolchgar iawn am hyn. Rwy'n gobeithio o ddifrif y gallwn archwilio ffyrdd a dulliau o barhau i weithio mewn partneriaeth ar ddiwedd y rhaglen bresennol er ein lles ni i gyd.”

Meddai Heidi: “Drwy gyflwyno ein cynnwys ar-lein, rydym yn gobeithio y bydd ein myfyrwyr yn parhau i gyfranogi, gweithio'n galed, a chredu bod gwyddoniaeth ac addysg uwch yn rhan o'u dyfodol.” 

“Yn S4, rydym i gyd yn gwneud ein gorau i sicrhau nad yw ysgogiad ein cyfranogwyr a'u brwdfrydedd dros wyddoniaeth yn diflannu wrth i'r ysgolion aros ar gau – ond rydym i gyd yn edrych ymlaen at yr amser pan allwn gwrdd eto â'n myfyrwyr wyneb yn wyneb.” 

Rhannu'r stori